Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Tîm Arlwyo yn Codi £5k dros Ymchwil Canser y Fron

catering team wearing pink

Mae aelodau staff tîm arlwyo'r cyngor wedi codi dros £5,000 i helpu yn y frwydr yn erbyn canser y fron.

Yn y cyfnod a arweiniodd at Ddiwrnod Gwisgo Pinc heddiw, mae'r tîm wedi bod yn codi arian trwy bobi a gwerthu cacennau mewn ysgolion, trefnu rafflau a gwisgo i fyny.

Mae trigolion hefyd wedi dangos eu cefnogaeth, gydag un teulu ym Mlaenafon yn cyfrannu £130.

Dywedodd Johanna Brown, rheolwr arlwyo cynorthwyol, a gafodd y syniad i godi arian,: "Mae'r rhan fwyaf o'n staff yn fenywod, ac mae llawer ohonynt naill ai wedi cael profiad o ganser y fron eu hunain, neu'n adnabod rhywun sydd wedi, felly roeddem am ddangos ein cefnogaeth.

"Er mai ein nod oedd codi arian i elusennau canser y fron, mae hefyd wedi bod yn gyfle i bobl sydd wedi teimlo effaith canser, siarad am eu profiadau.

"Diolch i'r holl staff, ysgolion a chwsmeriaid sydd wedi dangos eu cefnogaeth a'n helpu i godi swm anhygoel mewn ychydig ddyddiau."

Mae Diwrnod Gwisgo Pinc – sy’n cael ei gynnal yn ystod mis ymwybyddiaeth canser y fron - yn ddiwrnod codi arian cenedlaethol a drefnir gan yr elusen Breast Cancer Now.

Mae tua 59,400 o bobl yn cael diagnosis o ganser y fron bob blwyddyn yn y DU.

Am fanylion y cymorth sydd ar gael, ffoniwch Breast Cancer Now ar 0808 800 6000.