
Mae gwaith ar y gweill i glirio rhan o gamlas Mynwy ac Aberhonddu yng Nghwmbrân i helpu i wella llif y dŵr a’i ansawdd.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd contractwyr yn cael gwared ar chwyn sy’n rhwystro llif y dŵr a choed sydd wedi cwympo ac yn clirio griliau cwlferi rhwng Star Street a phen y rhaeadrau, i'r gogledd o Llandowlais Street.
Yn ogystal â gwella llif y dŵr, bydd y gwaith yn gwella bioamrywiaeth ac edrychiad a theimlad y gamlas i drigolion lleol ac ymwelwyr.
Meddai Chris Wyatt, cydlynydd camlesi’r Cyngor: "Mae'r gwaith hwn yn rhan o'n strategaeth 10 mlynedd i wella a harddu’r gamlas ond mae'n cael ei wneud ychydig yn gynharach na'r disgwyl mewn ymateb i'r gostyngiad yn lefelau’r dŵr dros yr haf.
"Bydd o fudd i drigolion sy'n byw yn y cyffiniau agos a gobeithio y bydd hefyd yn denu ymwelwyr eraill i fwynhau'r rhan hon o'r gamlas."
Gobeithir y bydd y gwaith yn helpu i gynnal lefelau dŵr ar hyd y rhan ddeheuol i Gasnewydd ac yn atal ardaloedd rhag mynd yn sych yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.
Ariannwyd y gwaith gan Ddewis y Bobl a chyfraniad gan Gyngor Cymuned Cwmbrân ac mae'n rhan o raglen ehangach o waith glanhau sydd wedi’i chynllunio ar gyfer y rhannau sy'n weddill yn Nhorfaen, tuag at y ffin â Chasnewydd, i gynnal lefelau dŵr ar y rhannau deheuol.