
Bydd y darlledydd radio a theledu Eleri Sion yn cyflwyno digwyddiad Menywod Mewn Busnes eleni yng Ngwesty’r Parkway fis nesaf.
Yn ymuno â’r gyn-newyddiadurwraig chwaraeon, sy’n cyflwyno ei rhaglen BBC Radio Wales ei hun, fydd y siaradwyr gwadd Sarah-Jane Waters, o AP Waters Building Contractors, a Ria Gibbs a Rachel Knight, o Reflect and Refocus Positive Change Coaching.
Bydd y noson hefyd yn cynnwys te prynhawn, adloniant byw, cyfleoedd i rwydweithio, ffair hydref, a raffl gyda gwobrau gwerth cannoedd o bunnau.
Mae’r tocynnau’n costio £20 ac eleni mae’r elw i gyd yn mynd i Mind yng Ngwent.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae digwyddiad Menywod Mewn Busnes yn un o uchafbwyntiau’r calendr busnes. Mae’r egni a’r brwdfrydedd yn yr ystafell yn ysbrydoliaeth.
"Y thema eleni yw iechyd meddwl a llesiant ac edrychaf ymlaen at glywed sut y mae ein siaradwyr gwadd yn gofalu am eu hiechyd meddwl a chorfforol nhw eu hunain a iechyd meddwl a chorfforol eu cyflogeion, ac yn cadw cydbwysedd ar yr un pryd, gyda gyrfaoedd llwyddiannus."
Bydd Sarah Waters yn siarad am ei phrofiad o ddelio â iechyd meddwl a llesiant mewn sefydliad lle mae dynion yn dominyddu, a’r gwahaniaeth y mae gweithio gyda CASE UK, sy’n arbenigo ar gymorth gydag iechyd meddwl a llesiant, wedi ei wneud ar gyfer ei staff.
Bydd Ria Gibbs a Rachel Knight yn trafod sut y mae eu busnesau yn helpu pobl i fynd ar siwrnai o wydnwch a chysylltiad er mwyn magu hyder a chyflawni targedau ystyrlon.
Trefnir y digwyddiad Menywod mewn Busnes gan dîm ymgysylltu â busnesau’r Cyngor a chaiff ei gynnal ddydd Iau 5 Tachwedd, rhwng 4.30pm ac 8pm.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â businessdirect@torfaen.gov.uk