Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Bwyty fegan yn ysbrydoli bwydlenni ysgolion

The Queen Inn pub with Torfaen catering staff

Cyn hir, bydd gan ddisgyblion ysgol fwy o opsiynau bwyd sy'n fegan ac yn seiliedig ar blanhigion i ddewis ohonynt, diolch i bartneriaeth rhwng Arlwyo Torfaen a thafarn leol.

Cysylltodd cogyddion o dafarn The Queen Inn, Cwmbrân â'r Cyngor ar ôl sylwi bod diffyg opsiynau fegan a dewisiadau wedi’u seilio ar blanhigion, o ansawdd uchel, ar lawer o fwydlenni ysgolion ar draws y DU.

Fel bwyty cwbl fegan, maen nhw’n angerddol am sicrhau bod bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion yn hygyrch, yn faethlon ac yn apelgar, yn enwedig i bobl ifanc.

Roedd y bwyty’n awyddus i rannu ei arbenigedd a helpu i ehangu'r dewis o opsiynau sydd ar gael i ddisgyblion yn Nhorfaen, a chysylltodd y bwyty â thîm arlwyo'r Cyngor i archwilio cyfleoedd i gydweithio.

Arweiniodd y sgyrsiau cychwynnol hynny at bartneriaeth newydd â ffocws ar ehangu dewisiadau ar y fwydlen ac archwilio ffyrdd o wella'r ddarpariaeth brydau ysgol i ddisgyblion ar draws y Fwrdeistref.

Meddai Ryan, cogydd o dafarn The Queen Inn: "Fel bwyty cwbl fegan, rydyn ni’n angerddol am ddangos y gall bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion fod yn faethlon, yn fforddiadwy ac yn llawn blas.

"Roedden ni’n teimlo bod cyfle i helpu i ehangu'r amrywiaeth o opsiynau sy'n seiliedig ar blanhigion sydd ar gael i bobl ifanc, felly fe wnaethon ni estyn allan at y Cyngor i rannu ein syniadau a'n profiad.

"O'n sgyrsiau cyntaf, creodd ansawdd darpariaeth arlwyo'r Cyngor, ac ymrwymiad y tîm i ddatblygu prydau ysgol yn barhaus, argraff fawr arnom.

"Mae yna waith gwych ar y gweill yn barod, ac rydyn ni’n gyffrous i fod yn rhan o bartneriaeth sy'n archwilio syniadau newydd, yn rhannu gwybodaeth ac yn helpu i ddarparu hyd yn oed mwy o ddewis ar gyfer disgyblion yn y dyfodol."

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rydyn ni’n chwilio drwy’r amser am ffyrdd o wella'r prydau ysgol rydyn ni'n eu darparu ar gyfer ein disgyblion.

"Trwy weithio gyda busnesau lleol, gallwn rannu syniadau, dysgu o arbenigedd ein gilydd ac archwilio cyfleoedd newydd i ehangu'r amrywiaeth o brydau iach a chynaliadwy sydd ar gael yn ein hysgolion.

"Byddai unrhyw brydau newydd sy'n seiliedig ar blanhigion yn ategu at yr amrywiaeth o brydau sydd ar gael ar hyn o bryd, yn hytrach na chymryd eu lle. Mae ein ffocws ar roi mwy o ddewis i ddisgyblion a pharhau i ddarparu ar gyfer pob dant a gofyniad dietegol."

"Mae'r bartneriaeth hon yn adlewyrchu'r dull cydweithredol sydd wrth galon Bargen Torfaen, gan ddod â gwybodaeth ac arbenigedd lleol at ei gilydd i sicrhau buddion i'n cymunedau."

Mae'r fenter yn ei chrud o hyd, gyda chyfarfodydd cychwynnol yn cael eu cynnal yn barod rhwng tîm arlwyo'r Cyngor a chogyddion o dafarn The Queen Inn.

Ffocws y trafodaethau yw rhannu syniadau, archwilio cynhwysion ac adnabod cyfleoedd i greu prydau sy'n apelio at ddisgyblion ac yn cynnal safonau maeth uchel ar yr un pryd.

Mae sesiwn arddangos ymarferol wedi'i chynllunio ar gyfer tymor y gwanwyn mewn ysgol leol, a bydd cogyddion o'r ddau sefydliad yn gweithio ochr yn ochr i arddangos ryseitiau a thechnegau newydd.

Mae'r gwaith hwn yn mynd law yn llaw ag ymdrechion ehangach y Cyngor i hyrwyddo dewisiadau bwyd iach a chynaliadwy mewn ysgolion. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y tîm arlwyo enillwyr ei gystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff flynyddol, a heriodd ddisgyblion i leihau gwastraff bwyd yn eu hysgolion.

Gallwch ddarllen ymhellach am enillwyr (yn agor mewn tab newydd) eleni a sut maen nhw wedi sicrhau gostyngiad o 35.98 y cant mewn gwastraff bwyd.