
Mae arosfannau bysiau yn cael gweddnewidiad yn rhan o raglen newydd Trefi Gyda'i Gilydd, yn unol â Bargen Torfaen.
Mae pedwar deg pump o arosfannau bysiau wedi cael eu glanhau'n ddwfn yn barod, a bydd 27 arall yn cael eu glanhau yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Mae yna gynlluniau hefyd i ddefnyddio rhai o'r arosfannau i hyrwyddo tirnodau lleol, fel yr arhosfan bysiau ger Fferm Gymunedol Greenmeadow.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae arosfannau bysiau yn rhan bwysig o'n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ac yn cael eu defnyddio gan filoedd o bobl bob wythnos.
"Mae llawer o drigolion yn defnyddio bysiau i deithio i ganol eu tref leol felly, yn rhan o'n dull cymunedol o wella’n trefi a’u harddu, roedden ni eisiau sicrhau bod arosfannau bysiau yn lân ac yn ddeniadol.
"Gallwch chi helpu trwy gymryd rhan yn eich menter Trefi Gyda'i Gilydd leol trwy fynd i Cymryd Rhan Torfaen."
Bydd cyfanswm o 251 o arosfannau bysiau yn cael eu glanhau yn rhan o'r fenter hon. Mae'r Cyngor hefyd yn edrych dros geisiadau am wydr newydd ac arosfannau newydd.
Yn ogystal â gwella golwg yr arosfannau bysiau, bydd Uned Trafnidiaeth Integredig y Cyngor yn gosod byrddau arddangos gyda Gwybodaeth Amser Real i Deithwyr yn rhai o’r arosfannau bysiau fis nesaf.
Bydd y byrddau arddangos yn dangos amseroedd cyrraedd byw, newidiadau i wasanaethau, a rhybuddion i deithwyr, er mwyn gwella profiad y cwsmer.
Dysgwch fwy am Trefi Gyda’n Gilydd a’r Fargen Torfaen.