Glasbrint ar gyfer twf hirdymor ac adfywio

Blueprint TILE

Mae cynllun uchelgeisiol ar gyfer twf economaidd ac adfywio cynaliadwy hirdymor wedi'i gyflwyno gan Gynghorau Torfaen a Blaenau Gwent.

Craffwyd ar y "glasbrint twf" newydd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Economi a'r Amgylchedd yr heddiw, a chroesawodd y pwyllgor y weledigaeth a'r cynlluniau i gynnwys pobl go iawn yn nhrawsnewidiad eu cymunedau.

Ffynnu Gyda'n Gilydd – Mae Coridor Twf Cymoedd Technegol yn weledigaeth ar y cyd i greu rhanbarth mwy ffyniannus i drigolion, cymunedau a busnesau erbyn 2035, gan ganolbwyntio ar dair thema allweddol:

  • Seilwaith a Buddsoddiad
  • Twf Busnes a Chyflogaeth
  • Pobl a Sgiliau

Mae'r glasbrint 10 mlynedd yn nodi 14 ffrwd waith ar y cyd sy'n cwmpasu cysylltedd trafnidiaeth, safleoedd strategol, cymorth busnes, mewnfuddsoddiad, sgiliau, cyflogadwyedd, creu lleoedd, canol trefi a thai.

Mae'n cynnwys fframwaith creu lleoedd i bennu blaenoriaethau datblygu ac adfywio ar gyfer trefi unigol ac ardaloedd, a denu buddsoddiad.

Bydd y cynllun yn cael ei gefnogi gan Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd yn dilyn penderfyniad gan y ddau gyngor i dynnu eu cynlluniau newydd unigol yn ôl, hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gymeradwyo.

Bydd pobl leol yn rhan lawn o'r cynlluniau, yn unol â ffordd newydd y cyngor o weithio gyda chymunedau drwy Fargen Torfaen. Megis dull Dyfodol Cwmbrân o nodi sut y dylid gwario grant Cynllun Cymdogaethau Llywodraeth y DU o £20m ar gyfer Cwmbrân.

Mae'r glasbrint yn cefnogi blaenoriaethau'r cyngor fel Cyngor Marmot a'i genhadaeth i "yrru twf economaidd cynaliadwy a chreu cymunedau bywiog, wedi'u cysylltu'n dda lle gall pobl a busnesau ffynnu".

Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae hwn yn ddull gweledigaethol a fydd yn dod â busnesau, cymunedau, cyflogwyr a buddsoddwyr at ei gilydd i sicrhau twf economaidd cynaliadwy hirdymor.

"Mae ei ymestyn ar draws Torfaen a Blaenau Gwent yn cynyddu ein gallu i ddenu diwydiannau newydd, dod â buddsoddiad i mewn, ac uwchsgilio ein gweithluoedd."

Bydd ymgynghoriad ac ymgysylltiad ar y glasbrint yn digwydd dros y misoedd nesaf, a bydd cynllun cyflawni blynyddol yn cael ei ddatblygu.

Gwelwch y Glasbrint yma (yn agor mewn tab newydd)