
Mae trigolion yn cael eu hannog i fabwysiadu clwt o dir i helpu i fonitro a rheoli Jac y Neidiwr.
Gan adeiladu ar lwyddiant ymgyrch Clec i Jac y llynedd, mae'r trefnwyr yn annog trigolion i gymryd rhan mewn ymdrechion i daclo un o rywogaethau goresgynnol mwyaf trafferthus y DU.
Mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan Bartneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen a'r nod yw gwarchod cynefinoedd, dyfrffyrdd a bywyd gwyllt lleol rhag un o rywogaethau goresgynnol mwyaf trafferthus y DU.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae mabwysiadu darn o dir i fonitro Jac y Neidiwr yn enghraifft wych o Fargen Torfaen ar waith, gyda thrigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol yn dod at ei gilydd i fynd i'r afael â her a rennir.
Nawr ein bod ni’n dod at ddiwedd y tymor tynnu balsam, bydd mabwysiadu clwt yn ein helpu i adeiladu darlun mwy eglur o’r ardaloedd sy’n cael eu heffeithio. Bydd hyn yn ein rhoi ni ar y droed flaen y flwyddyn nesaf, gan ganiatáu i ni flaenoriaethu safleoedd ar gyfer tynnu rhywogaethau goresgynnol ac adfer cynefinoedd, gan helpu blodau gwyllt a bywyd gwyllt brodorol i ffynnu
"P'un a allwch chi sbario ychydig oriau neu gymryd rhan yn rheolaidd, mae pob cyfraniad yn ein helpu i greu Torfaen wyrddach, iachach i genedlaethau'r dyfodol."
Gall trigolion nawr ddefnyddio'r map rhyngweithiol ar wefan Cymryd Rhan y cyngor i ddweud ble mae’r planhigyn i’w weld, dod o hyd i ddigwyddiadau gwirfoddolwyr lleol a "mabwysiadu clwt" o dir Jac y Neidiwr ger eu cartref neu yn eu cymuned.
Mae llawer o blanhigion balsam bellach yn agosáu at ddiwedd eu tymor tyfu a byddant yn mynd i hadu yn fuan iawn. Unwaith y bydd hadau wedi ffurfio, ni ddylid tarfu ar glytiau, gan y gall hyn achosi i hadau ledaenu ymhellach a chreu plâu newydd.
Serch hynny, gall trigolion dal i fabwysiadu clwt a'i ychwanegu at y map rhyngweithiol, gan helpu i adeiladu darlun mwy eglur o'r ardaloedd sy’n cael eu heffeithio fel bod modd cymryd camau’n gynnar y flwyddyn nesaf pan fydd planhigion newydd yn dechrau dod i'r amlwg
Trwy gymryd perchnogaeth o safle lleol, gall gwirfoddolwyr helpu i adnabod a monitro’r planhigyn sy'n lledaenu'n gyflym a chefnogi ymdrechion i’w ddileu cyn iddo gael cyfle i ledaenu ymhellach.
Cyflwynwyd Jac y Neidiwr i'r DU yn gyntaf ym 1839 a gall dyfu hyd at 10 troedfedd mewn un tymor, gyda phob planhigyn yn gallu cynhyrchu hyd at 2,500 o hadau. Mae'r rhywogaeth yn lledaenu'n gyflym ar hyd afonydd, nentydd ac ymylon coetiroedd, gan wthio allan planhigion brodorol a lleihau bioamrywiaeth.
Pan fydd y planhigyn yn marw yn ôl yn y gaeaf, mae glannau afonydd yn agored i erydiad a gall gyfrannu at fwy o risg llifogydd.
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol i gymryd rhan. Gall gwirfoddolwyr ymrwymo i unrhyw beth o ychydig oriau i sawl diwrnod a byddan nhw’n derbyn cyfarwyddyd ar adnabod a thynnu'r planhigyn yn ddiogel, wrth ddysgu sgiliau cadwraeth ymarferol yr un pryd.
Gall trigolion sydd â diddordeb mewn cymryd rhan lenwi'r ffurflen gofrestru gwirfoddolwyr ac archwilio'r map rhyngweithiol yn: https://cymrydrhan.torfaen.gov.uk/jac-y-neidiwr. (yn agor mewn tab newydd)
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys cyfleoedd i wirfoddoli a digwyddiadau tynnu balsam sydd ar ddod, ewch i dudalen Ymgyrch Clec i Jac. (yn agor mewn tab newydd)