Gall ein gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai eich helpu i ddod o hyd i lety addas a'i gynnal.
Os oes angen help arnoch ar frys, gallwch ymweld ag un o'n darpariaethau galw heibio heb apwyntiad:
Gall gwasanaethau helpu gyda:
- Trefnu/cynnal tenantiaeth
- Cyngor ar faterion tai
- Rheoli taliadau rhent/biliau
- Cymorth ariannol a hawlio budd-daliadau
- Mynediad i addysg, hyfforddiant neu gyfleoedd gwaith
Nid yw cymorth sy'n gysylltiedig â thai yn cynnwys gwasanaethau cwnsela, gwasanaethau personol neu ofal, a siopa neu wasanaethau garddio.
Gall y gwasanaeth helpu os ydych yn wynebu problemau sy’n gysylltiedig â thai oherwydd:
- Cam-drin domestig
- Iechyd meddwl
- Dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol
- Anawsterau dysgu
- Anableddau corfforol
Gallwn hefyd helpu pobl ifanc 16-24 oed a Sipsiwn a Theithwyr sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i gartref neu gynnal cartref.
I gael eich atgyfeirio at wasanaeth ffoniwch Call Torfaen.
Gall person gwblhau atgyfeiriad ar eich rhan.
Bydd ymgynghorydd yn cysylltu â chi o fewn 2 i 4 wythnos i asesu pa mod addas ydych i dderbyn y gwasanaeth, a dechrau’r cymorth.