Cymorth os ydych chi'n cael Trafferth gydag Arian

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu eich Treth Gyngor, peidiwch â'i hanwybyddu.

Os byddwch chi'n ei adael, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau ychwanegol. Rydym am eich helpu i osgoi hyn.

Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl ar 01495 762200.

Mae yna sefydliadau eraill hefyd a all roi cyngor ariannol cyfrinachol ac annibynnol am ddim i chi. Gallwch ddefnyddio'r dolenni ar y dudalen hon i ymweld â'u gwefannau.

Gwnewch Gyllideb

Gall Offeryn Cyllidebu Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) eich helpu i ddeall:

  • faint o arian rydych chi'n ei gael
  • faint o arian rydych chi'n ei wario
  • ble y gallech chi arbed arian

Gwiriwch Pa Fudd-daliadau y Gallwch Chi eu Cael

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau (yn agor mewn tab newydd) i ddarganfod:

  • pa gymorth y gallech chi ei gael
  • sut i wneud hawliad

Cael Cyngor ar Ddyledion Am Ddim

Gallwch hefyd ddarllen cyngor am ddim a dibynadwy gan Martin Lewis yn MoneySavingExpert (yn agor mewn tab newydd).