Mae'r bil Treth Gyngor llawn yn cymryd bod 2 oedolyn (18 oed neu'n hŷn) yn byw mewn eiddo.
Os mai un oedolyn yn unig sy'n byw yn yr eiddo, mae’r dreth gyngor yn cael ei ostwng 25%. Gelwir hyn yn ostyngiad person sengl.
Gwneud cais am ostyngiad treth gyngor - person sengl (yn agor mewn tab newydd)Rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau personol, trefniadau byw neu sefyllfa ariannol/incwm a allai effeithio ar eich gallu i hawlio.
Sylwer, os ydych yn gymwys i gael gostyngiad, neu eich eithrio rhag y dreth gyngor, gofynnir i chi lenwi ffurflen adolygu bob blwyddyn. Os na fyddwch yn cwblhau'r ffurflen adolygu, bydd yn rhaid i chi dalu eich treth gyngor yn llawn.