Os ydym wedi anfon llythyr penderfyniad atoch yn ymwneud â'ch hawliad Budd-dal Tai a/neu ostyngiad i Fudd-dal y Dreth Gyngor, efallai y bydd angen i chi wybod beth allwch chi ei wneud os ydych yn credu bod ein penderfyniad yn anghywir.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am eich penderfyniad, neu os ydych yn credu ei fod yn anghywir, cysylltwch â ni cyn pen mis o'r dyddiad ar ein llythyr penderfyniad.

Gallwch naill ai:

  • ofyn i ni esbonio'r rhesymau dros ein penderfyniad a chael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud nesaf;
  • gofyn i ni ailedrych ar ein penderfyniad; neu
  • apelio yn erbyn ein penderfyniad - rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig. Yna, caiff eich apêl ei chlywed gan dribiwnlys annibynnol.

Documents