Mae Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai (DHP) yn rhoi cymorth ychwanegol gyda'ch rhent. Ni allwn helpu i dalu rhai rhannau o'ch rhent, er enghraifft, os yw’n cynnwys bwyd, gwres neu drethu dŵr.
Ni all y taliadau hyn helpu gyda chostau’r Dreth Gyngor.
Pwy sy'n gallu cael TaliadDisgresiwn at Gostau Tai?
I gael y taliad, mae'n rhaid bod gennych hawl i Fudd-dal Tai (BT) neu cael Credyd Cynhwysol (CC) sy'n cynnwys swm ar gyfer costau tai.
Nid oes unrhyw amgylchiadau penodedig, ond bydd angen i chi brofi i ni fod angen cymorth ychwanegol arnoch.
Faint o Daliad fedra i ei gael?
Gall Taliad lenwi’r bwlch rhwng eich rhent cymwys a swm y Budd-dal Tai a ddyfarnwyd i chi, neu os ydych yn derbyn CC gallwch gael Taliad i wneud yn iawn am unrhyw ddiffyg rhwng eich rhent cymwys a'r elfen cost tai yn cynnwys yn eich CC .
Am faint o amser gallaf gael Taliad Disgresiwn at Gostau Tai?
Fel arfer, mae Taliadau yn cael eu dyfarnu am gyfnod byr yn unig, er enghraifft 3 mis. Bydd hyn yn rhoi amser i chi ystyried a allwch chi newid eich amgylchiadau. Ar ddiwedd y cyfnod hwn bydd angen i chi wneud cais arall am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai os ydych yn meddwl bod dal angen cymorth ychwanegol arnoch i dalu eich rhent, a byddwn yn ailystyried amgylchiadau eich achos. Nid oes sicrwydd, fodd bynnag, y bydd dyfarniad arall yn cael ei wneud hyd yn oed os bydd eich amgylchiadau'n aros yr un fath.
Nodwch- bob blwyddyn rydym yn cael swm cyfyngedig o arian gan y Llywodraeth i ddyfarnu Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai. Unwaith y bydd yr arian hwn wedi cael ei ddefnyddio, ni fyddwn yn gallu dyfarnu taliadau hyn, waeth pa mor dda yw eich rhesymau.
Sut ydw i'n gwneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai?
Os hoffech wneud cais am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai, gallwch lenwi ffurflen gais ar lein.
Gwneud cais am daliad disgresiwn at gostau tai (yn agor mewn tab newydd)Neu, argraffwch a llenwch y ffurflen isod.