Bob blwyddyn, mae yna dros 200 o gyfleoedd i helpu timau'r cyngor i ddarparu gwasanaethau mewn cymunedau lleol. Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a gwella eich iechyd a'ch lles.

Mae cyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd gyda'r timau canlynol:

  • Dysgu i oedolion
  • Mynwentydd
  • Mentora cymunedol
  • Timau amgylcheddol
  • Llyfrgelloedd
  • Sbwriel ac atal tipio anghyfreithlon
  • Gwasanaeth Chwarae
  • Gwasanaeth Ieuenctid

Sut i wirfoddoli

  • Ewch i wefan Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd) ar gyfer y cyfleoedd diweddaraf i wirfoddoli. Bydd gwybodaeth am y rôl, gan gynnwys lleoliad a nifer yr oriau, yn cael eu cynnwys. • Cwblhewch y ffurflen gais. • Bydd y tîm yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi.
  • Bydd rhai cyfleoedd i wirfoddoli’n darparu hyfforddiant sy'n arwain at gymwysterau.
  • Efallai y bydd angen gwiriad GDG ar rai, ond bydd timau'n gallu cynghori ynglŷn â hyn.

Mae darparu cyfleoedd gwirfoddoli’n un o'r ffyrdd y mae'r cyngor yn gweithio'n agosach gyda chymunedau lleol i wella llesiant a gwytnwch.

Os hoffech drafod cyfleoedd gwirfoddoli newydd yn eich cymuned, cysylltwch â ni trwy volunteering@torfaen.gov.uk