Ydych chi’n un o drigolion Torfaen sy’n methu â mynd i’r llyfrgell oherwydd salwch, anabledd, analluogrwydd neu gyfrifoldebau gofalu?
Oes yna neb a fedr ddod â llyfrau yn rheolaidd i chi?
Medrwn ni helpu!
Gall y llyfrgell ddod atoch chi gyda’n Gwasanaeth Llyfrgell yn y Cartref.
Mae hwn yn wasanaeth dosbarthu AM DDIM, yn dod â llyfrau a llyfrau sain i’ch cartref bob tair wythnos.
I wneud cais am y gwasanaeth hwn, neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’ch llyfrgell leol.