Mae ein Tîm Diogelwch Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol i atal terfysgaeth drwy Strategaeth Gwrthderfysgaeth y DU, neu CONTEST.

Mae gan strategaeth CONTEST bedair elfen allweddol:

· Mynd ar drywydd – i atal ymosodiadau terfysgol

  • Atal – atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi eithafiaeth dreisgar
  • Diogelu – cryfhau ein hamddiffyniad rhag ymosodiadau terfysgol
  • Paratoi – lliniaru effeithiau lle nad oes modd atal ymosodiad

Os oes gennych bryderon am fygythiad terfysgol uniongyrchol, ffoniwch 999.

Os ydych wedi gweld neu glywed rhywbeth a allai awgrymu bod y DU dan fygythiad terfysgol, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321 neu ewch i Wefan Plismona Gwrthderfysgaeth (yn agor mewn tab newydd).

Gallwch hefyd gyfeirio pryderon yn ddi-enw ar-lein drwy lenwi Ffurflen Atgyfeirio Gwrthderfysgaeth Cymru (Prevent (yn agor mewn tab newydd))

Prevent

Mae'r rhaglen Prevent yn fenter aml-asiantaeth sy’n anelu i amddiffyn pobl agored i niwed sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio gan eithafwyr.

Os oes gennych bryderon am rywun sydd mewn perygl o gael ei radicaleiddio, gallwch ffonio llinell gyngor genedlaethol Prevent yr heddlu, ar 0800 011 3764, yn gyfrinachol, i rannu eich pryderon gyda'n swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig. Neu gallwch gysylltu â'r Tîm Diogelwch Cymunedol.