Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Prif swyddogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ystod cyfnod cynnar digwyddiad brys yw cynnal a diogelu gwasanaethau arferol y cyngor, tra'n cysylltu â'r gwasanaethau brys a'u cefnogi.

Bydd y cyngor fel arfer yn ymwneud â digwyddiad ar ôl iddo gael ei rybuddio gan y gwasanaethau brys. Wrth i ddigwyddiad ddatblygu a symud at y cam adfer, bydd y cyngor yn dechrau cymryd y rôl arweiniol gan y gwasanaethau brys. Dim ond unwaith y bydd y bygythiad uniongyrchol i les dynol, yr amgylchedd neu eiddo wedi lleihau, y bydd y trosglwyddiad hwn yn digwydd

Gall y cyngor fod yn rhan o ddigwyddiad mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys:

  • Adsefydlu'r gymuned
  • Gofal Cymdeithasol, Cymorth a Llesiant
  • Cymorth lles a chwnsela
  • Cyllid Brys
  • Darparu trefniadau llety brys
  • Canolfannau gorffwys brys sy'n darparu bwyd, diod, cymorth
  • Darparu staff ac offer arbenigol
  • Rheoli traffig priffyrdd

Mae CBS Torfaen, ochr yn ochr ag asiantaethau eraill sy’n ymateb fel y rhagnodir o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004, yn aelodau o Fforwm Gwydnwch Lleol Gwent (FfGLlG).

Mae Cofrestr Risgiau Cymunedol Gwent 2026–27 yn tynnu sylw at y risgiau mwyaf y mae ein cymunedau yn eu hwynebu, o lifogydd a thywydd garw i golli seilwaith a chlefydau heintus. Mae bod yn wybodus yn ein helpu ni i gyd i baratoi yn well. Ewch i Gwent Prepared (yn agor mewn tab newydd) i gael ragor o wybodaeth am risgiau cymunedol a chydnerthedd. I ddeall mwy am gofrestr risg y gymuned, gwylia'r fideo animeiddio (yn agor mewn tab newydd) hwn.

Rheoli Argyfwng