Mae gan Dorfaen rhwydwaith helaeth o lwybrau beicio hawdd eu cyrchu y gellir eu defnyddio i fynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, cyrraedd cyfleusterau pwysig fel canolfannau hamdden a siopau, neu er pleser pur. Mae nifer o’r llwybrau oddi ar y ffordd ac maent yn pasio heibio tirweddau deniadol â nifer o nodweddion hanesyddol diddorol. Mae nifer y llwybrau wedi cynyddu’n gyflym iawn dros y blynyddoedd diweddar ac erbyn hyn mae yna rhwydwaith drawiadol iawn yn y cwm.
Mae yna nifer o lwybrau ‘Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol’ (NCN) yn y fwrdeistref, yn cynnwys:
- NCN 492 - Cwmbrân i Flaenafon
- NCN 49 - Casnewydd i Famheilad
- NCN 466 - Pont-y-pŵl i Grymlyn
Llwybr Afon Lwyd yw’r prif lwybr oddi ar y ffordd drwy Dorfaen a dilyna NCN 49 ac NCN 492 Gwmbrân i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.
Mae rhagor o wybodaeth am lwybrau'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) yn y fwrdeistref ar gael ar wefan Mapiau OS (yn agor mewn tab newydd).
Mae gorsafoedd atgyweirio beiciau am ddim gyda phympiau a sbaneri wedi'u lleoli yn:
- Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon Church Road, Blaenafon, NP4 9AE
- Parc Pont-y-pŵl y tu allan i Ganolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵlNP4 8AT
- Siop Un Stop, Station Road, Tref Gruffydd, NP4 5JH (NCN 49 + 492)
- Stadiwm Cwmbrân, Henllys Way, NP44 3YS
- Llyn Cychod Cwmbrân, gyferbyn â’r Boat House Café, NP44 8HT
Mae'r lleoliadau a gwybodaeth arall am deithio llesol ar gael ar mapdata.llyw.cymru (yn agor mewn tab newydd)
Llwybr Afon Lwyd
Mae Llwybr Afon Lwyd yn llwybr prydferth 16 milltir o hyd heb draffig, sy'n rhedeg drwy Gwmbrân yn y de, trwy Bont-y-pŵl ac i fyny i Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon yn y gogledd (NCN49 a 492). Mae’n cynnwys y golygfeydd anhygoel a’r mannau gwyrdd prydferth i gyd sydd gan ardal Torfaen i gynnig. Gan ddilyn camlas ac yna hen reilffordd mae’n cynnwys llwybr hawdd i bob defnyddiwr. Mae llethr fechan yn codi o’r de i’r gogledd sy’n gwneud y llwybr di-draffig yma yn berffaith ar gyfer teuluoedd.
Mae’r llwybr yn pasio sawl cwm ac mae ganddo gysylltiadau ardderchog i fysiau a threnau felly mae’n cynnig modd iach, dymunol a rhad i deithio’n ôl a 'mlaen i’r gwaith neu’r ysgol. Efallai byddwch ond yn dewis un rhan fach i archwilio, neu un man hoffwch ymweld â gan ddefnyddio bws a threnau ym Mhont-y-pŵl a Chwmbrân.
Rhannwch y Llwybr!
Mae llwybrau aml-ddefnydd a rennir yn ffordd wych i fynd o gwmpas gan ddefnyddio beic, ond maent hefyd yn cael eu defnyddio can lawer o bobl eraill. Mae’n bwysig dilyn rhai rheolau syml fel bod pawb yn gallu eu mwynhau gymaint ag sy’n bosib.
Edrychwch ar y Cod Ymddygiad Beicio neu ewch i wefan Sustrans (yn agor mewn tab newydd).
Teithio i Lwybr Afon Lwyd ac o'r Llwybr
Ar feic
Mae gorsafoedd Pont-y-pŵl a Chwmbrân yn cynnig arwyddion rhagorol i’r llwybr.
- I’r de mae'r llwybr yn ymuno â llwybr NCN 49 a 47, yn ogystal â'r gorsafoedd rheilffordd a bws yng Nghasnewydd.
- I’r gorllewin, mae'r llwybr yn ymuno â llwybr NCN 466 sy'n cysylltu â Chrymlyn.
- I'r gogledd drwy lwybr gamlas Mynwy ac Aberhonddu NCN 49. Mae hwn yn
cysylltu â NCN 46 ar gyfer cysylltiadau i'r cymoedd drwy Frynmawr neu'r Fenni
ar gyfer gorsafoedd bws a rheilffordd.
I gael amseroedd trenau a gwybodaeth am drafnidiaeth cyhoeddus ewch i www.traveline-cymru.info (yn agor mewn tab newydd)
I gael y gorau o'r rhwydwaith a chael mapiau a llyfrau canllaw ewch i
wefan Sustrans (yn agor mewn tab newydd).
Documents
- Map Beicio Llwybr Afon Lwyd (yn agor mewn tab newydd)pdf file[6.92MB]
Llwybrau Beicio Eraill
Teithio trwy ganol Torfaen, mae Llwybr Lwyd Afon cysylltu â llawer o lwybrau ac atyniadau eraill
- Llwybr 49 - O Bont-y-moel i Lan-ffwyst dilynwch lwybr 49 ar hyd camlas Mynwy ac Aberhonddu i weld golygfeydd syfrdanol dros Ddyffryn Wysg a’r Mynydd Du.
- Llwybr 88 - Taith ragorol ar hyd afon Wysg yn syth i ganol y dref Rufeinig, Caerllion
- Blaenau’r Cymoedd - Mae ambell i fryn ar y daith yma, ond mae’r golygfeydd werth pob ymdrech. Perffaith i’r beicwyr mwy profiadol yn eich plith, sy’n chwilio am antur fywiocaol ar 2 olwyn. Mae yna hefyd rhai adrannau gwych, heb draffig, o amgylch Y Fenni a Brynmawr, sy’n addas iawn i deuluoedd.
- Llwybr Celtaidd Rhif 47 - dyma daith drawiadol heb draffig, yr holl ffordd i Lwybr Taf drwy 14 loc, Traphont Hengoed a 3 pharc gwledig Sirhywi, Penalta a Thaf Bargoed. Am antur go iawn ar feic mynydd dilynwch lwybr 47 tua’r gorllewin o lwybr Taf i Gastell-nedd!
- Llwybr 466 - Llwybr i’r beiciwr mwy profiadol i Grymlyn a’r dyffryn gorllewinol sy’n ymuno â llwybr 492 ym Mhont-y-pŵl. Ewch tua’r gogledd o Lanhiledd ar lwybr 465 i weld y Gwarchodwr mawreddog!
- Llwybr 423 - Llwybr i feicwyr profiadol a chanddynt goesau cryfion. Teithiwch y bryniau tonnog i Drefynwy drwy dref farchnad brydferth Brynbuga.