Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae yna bum cwrt tenis yn Nhorfaen y gallwch ei bwcio am ddim rhwng 7am a 9pm, saith diwrnod yr wythnos.

  • Ardal Gemau Aml-ddefnydd Blaenafon – 2 Gwrt (heb lifoleuadau)
  • Parc Pont-y-pŵl - 4 Cwrt (llifoleuadau)
  • Parc Cwmbrân - 2 Gwrt (heb lifoleuadau)
  • Ardal Gemau Aml-ddefnydd Pontnewydd – 3 Cwrt (heb lifoleuadau)
  • Parc Fishponds, Panteg - 2 Gwrt (heb lifoleuadau)

Rheolir y system bwcio gan Tenis Parciau Torfaen, rhan o’r Clwb Tenis Lawnt.

Am wybodaeth am grwpiau tenis lleol a’u gweithgareddau, ewch i Clubspark (yn agor mewn tab newydd)

Sut mae bwcio

Mae cyrtiau tenis yn cael eu bwcio trwy wefan Clubspark.

Bwcio cwrt tenis (yn agor mewn tab newydd)

Byddwch yn derbyn cod gât – gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi * cyn y rhifau.