Rydyn ni’n chwilio am stondinwyr i ymuno â Marchnad Pont-y-pŵl.

Rydyn ni ar agor 6 niwrnod yr wythnos, ac yn gweld tua 500 o siopwyr y dydd ar gyfartaledd, ac mae’r ffigwr hwn yn cynyddu gyda'n digwyddiadau arbennig rheolaidd yng nghanol y dref.

Mae Parc enwog Pont-y-pŵl ar garreg ein drws ac mae'n denu tua 300,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Yn 2025, mae disgwyl i ddatblygiad ardal gaffi ac ardal ddiwylliannol newydd Pont-y-pŵl, gwerth £9.7m, i agor gyda'r nod o ddenu mwy o bobl i ganol y dref.

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig

  • Rhent o £33 yr wythnos + dim trethi busnes
  • Stondinau hyblyg + cyfle i dyfu
  • Gostyngiad o 30% am y 6 mis cyntaf
  • Contract o 6 mis i ddechrau
  • Ac yna contract misol sy’n mynd o fis i fis
  • Cymorth busnes a marchnata am ddim
  • Parcio am ddim gerllaw
  • WiFi am ddim

Mynegi Diddordeb

Ymunwch â'n stondinwyr

Mae gennym amrywiaeth o stondinwyr, gan gynnwys y rhai sy'n gwerthu bwyd ffres, melysion a danteithion ac anrhegion di-ri.

P'un a ydych chi'n chwilio am gyfle busnes newydd neu'n rhedeg busnes gartref ac yn barod i fynd ag ef i'r lefel nesaf, mae gennym stondin i chi.

Dyma pam mae ein stondinwyr hen a newydd wrth eu bodd ym Marchnad Pont-y-pŵl:

"Rydyn ni wedi bod ym Marchnad Pont-y-pŵl ers 1977. Mae ein cwsmeriaid wrth eu boddau â'r gwasanaeth personol maen nhw'n ei gael wrth siopa gyda ni. Dydy busnesau ddim yn sylweddoli faint o fuddion sydd 'na o fod yn y farchnad." Mel ac Ellen, Warren’s Wholefoods

"Rydyn ni'n caru arddull yr adeilad oherwydd maen cyd-fynd â’n busnes. Mae fel cymuned yma, ac rydyn ni wedi gwneud llawer o ffrindiau." Natasha, Real Quirky Workshop