Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae’r Llyfr Cofio wedi ei leoli ar llawr 2 y Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl, yn y coridor sy’n arwain at Siambr y Cyngor. Mae’n rhestru enwau’r dynion a menywod o Ardal Trefol Pont-y-pŵl a bu farw yn gwasanaethu yn ystod yr Ail Rhyfel Byd (1939 i 1945).

Mae'r Llyfr yn nodi enwau'r rhai a wasanaethodd yn y Fyddin Brydeinig, y Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Frenhinol a'r Llynges Fasnachol gyda phob adran wedi'i rhestru yn nhrefn yr wyddor. Cafodd y Llyfr ei goffáu ym 1955 ac mae yn Saesneg yn unig.

Mae’r Llyfr Cofio yn agored i’r cyhoedd, fodd bynnag, oherwydd mesurau diogelwch yn y Ganolfan Ddinesig, bydd angen i aelodau’r cyhoedd sydd am weld y llyfr, gofrestru a chael eu tywys i’w leoliad.

Yma gellir gweld copi o'r Llyfr Coffa wedi'i sganio (yn agor mewn tab newydd). (Saesneg yn unig)

Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru

Mae Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru (yn agor mewn tab newydd) ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf yn cynnwys enwau 35,000 o ddynion a menywod fu’n gwasanaethu, yn ogystal ag aelodau’r Catrodau yng Nghymru, a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r unigolion hyn wedi eu rhestru yn ôl catrawd a bataliwn ochr yn ochr ag enwau’r rheiny a allai fod wedi marw ochr yn ochr â hwy. Yn ogystal â chael ei gadw mewn cromgell danddaearol, arbennig yn Nheml Heddwch Caerdydd, mae’r llyfr wedi cael ei ddigideiddio i bawb gael ei weld.

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog