Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur

Mae sawl ardal yn Nhorfaen yn cael eu hystyried yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur.

Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol fel y rhain yn safleoedd gwarchodedig.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn safleoedd ecolegol pwysig sy'n cael eu gwarchod yn gyfreithiol.

Mae pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Nhorfaen:

  • Cronfa Ddŵr Llandegfedd, sydd â phoblogaeth sylweddol o adar gwyllt sy’n gaeafu ac adar ymfudol
  • Y Blorens, sydd â chymunedau o blanhigion grug ucheldirol
  • Cors Henllys, sy’n adnabyddus fel ffen llawr gwlad
  • Tŷ’r -Hen-Forwyn sy’n ddol tir uchel

Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur

Mae Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur, sydd hefyd yn cael eu galw’n safleoedd bywyd gwyllt lleol, yn cael eu gwarchod o ran penderfyniadau cynllunio. Mae mwy na 200 o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur yn Nhorfaen.

Mae grŵp lleol sy’n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru ac eraill yn adolygu cyflwr y safleoedd. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC) ac yn diweddaru mapiau i ddangos eu maint a'u cyflwr presennol.