Mae llawer o grwpiau gwirfoddol sy'n helpu i ofalu am ein hamgylchedd lleol.
I gael gwybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan, ewch i Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd) neu cysylltwch â’r grwpiau isod.
Rheoli Ffromlys
Ymunwch â'r tîm Partneriaeth Natur Leol sy’n helpu i fynd i'r afael â Ffromlys ymledol. Cysylltwch â kristen.thobroe@torfaen.gov.uk
Coedwig Gymunedol Blaen Bran
Helpwch i gynnal y safle 100 erw drwy gofrestru fel gwirfoddolwr neu beth am fwrw golwg ar y calendr digwyddiadau. Ewch i wefan Coedwig Gymunedol Blaen Bran (yn agor mewn tab newydd)
Gwirfoddolwyr Amgylcheddol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon
Mae gwirfoddolwyr yn cynnal gweithgareddau ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon ac mae croeso i aelodau newydd. Cysylltwch ar bwheg@hotmail.co.uk neu rhowch glic ar dudalen Facebook Gwirfoddolwyr Amgylcheddol Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon (yn agor mewn tab newydd).
Grŵp Camlas Pont 46 i Bum Loc
Mae’r grŵp yn trefnu gweithgor gwirfoddol unwaith y mis, fel arfer ar fore Sul. Maen nhw hefyd yn trefnu digwyddiadau i ddathlu'r gamlas a dangos ei gwerth, yn ogystal ag ymgyrchu dros y gamlas drwy gydol y flwyddyn. I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook Grŵp Camlas Pont 46 i Bum Loc (yn agor mewn tab newydd)
Cyfeillion Gwarchodfa Natur Leol Henllys
Mae gwirfoddolwyr yn gwarchod ac yn gwella Gwarchodfa Natur Leol Henllys er budd bywyd gwyllt, trigolion ac ymwelwyr. Maent yn cwrdd yn rheolaidd i gwblhau amrywiaeth o weithgareddau cadwraeth. Ewch i dudalen Facebook Cyfeillion GNL Henllys (yn agor mewn tab newydd)
Cadwch Dorfaen yn Lân – Gwanwyn Glân Torfaen
Bob mis Mawrth, mae swyddog sbwriel a thipio anghyfreithlon y cyngor yn trefnu salw digwyddiad casglu sbwriel ledled Torfaen. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch ag oliver.james@torfaen.gov.uk
Ymddiriedolaeth Camlas Mynwy, Aberhonddu a'r Fenni
Mae'r grŵp fel arfer yn cwrdd ar ddydd Sadwrn ac mae’r tasgau yn cynnwys rheoli cynefinoedd a chynnal a chadw strwythurau’r lociau sydd wedi cael eu hadfer yn Nhŷ Coch. I gael mwy o wybodaeth ewch i mbact.org.uk/volunteering-opportunities (yn agor mewn tab newydd)
Tasglu Pont-y-moel
Mae Hannah Cubie, Cydlynydd Cysylltiadau Cymunedol Glandŵr Cymru, yn rhedeg grŵp sy'n ymgymryd â thasgau i ofalu am Fasn Pont-y-moel a llwybr halio’r gamlas. Cysylltwch â Hannah ar hannah.cubie@canalrivertrust.org.uk
Grŵp Gwirfoddoli Camlas Torfaen
Grŵp o wirfoddolwyr sy’n cyfarfod yn fisol yng Nghwmbrân i gasglu sbwriel a rheoli llystyfiant, fel arfer ar ddydd Sul. Cysylltwch â’r ysgrifennydd Hugh Woodford ar heatherhugh@hotmail.com.
Grwpiau casglu sbwriel
Dysgwch am gasglu sbwriel cymunedol a materion amgylcheddol drwy ddilyn grŵp Gwirfoddolwyr Gwyrddach a Glanach Torfaen ar Facebook (yn agor mewn tab newydd). Gallwch hefyd gysylltu â swyddog sbwriel a thipio anghyfreithlon y cyngor, Oliver James ar, oliver.james@torfaen.gov.uk neu lenwi Ffurflen gofrestru i wirfoddolwyr
Gwirfoddoli ar gyfer codi sbwriel cymunedol (yn agor mewn tab newydd)‘Ceidwaid Campus’
Gall gwirfoddolwyr helpu i gynnal a rheoli llwybrau troed, gwarchodfeydd natur lleol a choetiroedd yn y fwrdeistref. I fynegi diddordeb i fod yn un o’r Ceidwaid Campus, e-bostiwch veronika.brannovic@torfaen.gov.uk