Crynodeb o'r Drwydded
Os ydych chi'n cynnig tŷ amlfeddiannaeth ar rent, mae'n bosibl y bydd angen trwydded arnoch gan eich awdurdod lleol.
Meini Prawf Cymhwysedd
Rhaid cyflwyno ceisiadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sef yr awdurdod tai lleol.
Y ffi yw £708.00 am drwydded 5 mlynedd.
Rhaid eich bod chi'n unigolyn addas a phriodol i ddal y drwydded.
Crynodeb o'r Rheoliad
Crynodeb o'r rheoliad yn ymwneud â'r drwydded hon(yn agor mewn tab newydd) (yn agor mewn tab newydd)
Proses Gwerthuso Cais
Rhoddir trwyddedau:
- os yw'r tŷ yn addas ar gyfer amlfeddiannaeth, neu os gellir ei wneud yn addas ar gyfer amlfeddiannaeth
- os yw'r ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol ac ef/hi sy'n fwyaf priodol i ddal y drwydded
- os oes gan y rheolwr arfaethedig reolaeth dros y tŷ a'i fod yn unigolyn addas a phriodol i fod yn rheolwr
- os yw'r trefniadau rheoli'n foddhaol
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?
Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni. Gallwch wneud hyn ar-lein os cyflwynoch y cais trwy wasanaeth UK Welcomes.
Sut i ymgeisio
Os ydych yn dymuno cofrestru tŷ amlfeddiannaeth neu newid manylion cofrestriad presennol, lawrlwythwch gopi o'r ffurflen gais (yn agor mewn tab newydd) o'r fan hon.
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.
Cewch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl.
Rhaid cyflwyno apêl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y penderfyniad.
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded
Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.
Cewch apelio i dribiwnlys eiddo preswyl ynghylch amodau sydd ynghlwm wrth drwydded neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddiddymu trwydded.
Rhaid cyflwyno apêl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y penderfyniad.
Apeliadau a Chwynion
Os rhoddir trwydded a'ch bod yn dymuno apelio yn erbyn hynny, cewch gyflwyno apêl i dribiwnlys eiddo preswyl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y penderfyniad.
Camau Unioni Eraill
E.e. sŵn, llygredd, ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.