Gwneud cais am drwydded
Crynodeb o'r Drwydded
Er mwyn cynnal casgliadau o dŷ i dŷ at ddibenion elusennol yng Nghymru a Lloegr, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol.
Meini Prawf Cymhwysedd
Rhaid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen briodol yr awdurdod lleol. Rhaid eich bod yn unigolyn addas a phriodol.
Crynodeb o'r Rheoliad
Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon (yn agor mewn tab newydd)
Proses Gwerthuso Cais
Nid oes darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.
A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?
Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.
Gwneud cais ar-lein
Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded casgliadau o dŷ i dŷ (yn agor mewn tab newydd)neu newid manylion trwydded sy'n bodoli eisoes, ewch i gov.uk.
Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. Mae gennych hawl i apelio i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet. Rhaid cyflwyno apêl o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y gwrthodiad.
Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded
Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. Mae gennych hawl i apelio i'r Gweinidog dros Swyddfa'r Cabinet. Rhaid cyflwyno apêl o fewn 14 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad.
Camau Unioni Eraill
E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.
Cymdeithasau Masnach
Dim
Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.