Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Hysbysiad ynghylch cais am Drwydded Mangre o dan Adran 17 Deddf Trwyddedu 2003

Hysbysir drwy hyn fod Heron Foods Limited wedi cyflwyno cais i Gyngor Sir Torfaen am Drwydded Mangre mewn perthynas â mangre a fydd yn cael ei galw’n Heron Foods, yn hen Glwb y Gweithwyr, Folly Lane, Trefddyn, NP4 8JB.

Y gweithgareddau arfaethedig y mae angen trwydded ar eu cyfer, a'u horiau, yw gwerthu alcohol oddi ar y safle o ddydd Llun i ddydd Sul 08:00 i 20:00.

Oriau agor y safle fydd dydd Llun i ddydd Sul 08:00 i 20:00.

Gellir gweld y cais yn llawn trwy gysylltu ag Awdurdod Trwyddedu Torfaen.

Rhaid i sylwadau gael eu gwneud cyn 21 Hydref 2026

Yn Ysgrifenedig i:

Y Swyddog Trwyddedu
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
NP4 6YB

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Mae'n drosedd i wneud datganiad ffug yn fwriadol neu'n ddi-hid mewn cysylltiad â chais. Nid oes terfyn ar uchafswm y ddirwy y gall rhywun fod yn atebol amdani ar euogfarn ddiannod.