Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Hysbysiad ynghylch cais am drwydded mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003

Hysbysir drwy hyn fod Allstars (Taunton) Limited wedi cyflwyno cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen am Drwydded Mangre newydd ar gyfer Allstars, Llawr Gwaelod Uchaf (Unedau 6 a 7) Hamdden Cwmbrân, Glyndŵr Road, Torfaen NP44 1QS i ganiatáu'r canlynol:

Gwerthu alcohol (ar y safle ac oddi ar y safle), digwyddiadau chwaraeon dan do, arddangos ffilmiau a chwarae cerddoriaeth wedi'i recordio (dan do) 08:00-00:00 (hanner nos) dydd Sul tan ddydd Mercher (cau am 00:30), a 08:00-01:00 dydd Iau tan ddydd Sadwrn (cau am 01:30). Lluniaeth hwyr y nos (dan do) 23:00 - 00:30 dydd Sul tan ddydd Mercher a 23:00-01:30 dydd Iau tan ddydd Sadwrn. Awr ychwanegol y diwrnod cyn unrhyw ddydd Llun sy’n ŵyl y banc (pob gweithgaredd trwyddedig a chau) ac ar y dydd y mae Amser Haf Prydain yn dechrau (Lluniaeth hwyr y nos a chau).

Gellir gweld y cais yn llawn trwy gysylltu ag Awdurdod Trwyddedu Torfaen.

Rhaid i sylwadau gael eu gwneud cyn 22 Hydref 2026

Yn Ysgrifenedig i:

Y Swyddog Trwyddedu
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
NP4 6YB

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Mae'n drosedd i wneud datganiad ffug yn fwriadol neu'n ddi-hid mewn cysylltiad â chais. Uchafswm y gosb y gall rhywun fod yn atebol amdani ar euogfarn ddiannod yw dirwy o unrhyw swm.