Os ydych chi neu eich anwyliaid yn poeni am gostau angladd, gellir cynnig gwasanaeth angladd sylfaenol i drigolion yn Nhorfaen.

Bydd y gwasanaeth yn cynnwys:

  • Casglu’r ymadawedig o ardal yn Nhorfaen
  • Arch argaen o dderw golau neu dywyll
  • Ategolion ac addurniadau
  • Gwisgo’r ymadawedig
  • Un cyfle i weld yr ymadawedig yn y capel gorffwys (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm; drwy apwyntiad)
  • Hers
  • Gwasanaeth angladd urddasol

I gael mwy o wybodaeth a chostau, cysylltwch â Swyddfa Mynwent.

Neu cysylltwch â Michael G Ryan Son and Daughters Ltd, Trefnwyr Angladdau - Casnewydd, ar 01633 854522 neu newport@mgrfunerals.co.uk