Mae seremoni enwi yn dathlu genedigaeth plentyn. Mae hefyd yn ffordd wych i groesawu llysblant a phlant sydd wedi cael eu mabwysiadu, i deulu newydd.

Yma yng Ngwasanaeth Cofrestru Torfaen ein nod yw cynnig seremoni unigryw sy'n gweddu i'ch anghenion, a all gynnwys eich dewis eich hun o eiriau, darlleniadau a cherddoriaeth. I'ch atgoffa o'r diwrnod arbennig hwn, rydym yn cyflwyno tystysgrif ac anrheg i ddathlu, ar ddiwedd y seremoni.

Os hoffech chi wybod mwy, neu i drefnu seremoni, cysylltwch â ni.