• Ydych chi’n teimlo’n gryf am eich cymuned leol?
  • Oes yna rywbeth rydych eisiau ei newid?
  • Ydych chi’n barod i gymryd penderfyniadau heriol?
  • Pam na gymerwch safiad dros yr hyn rydych yn ei gredu ynddo a dod yn gynghorydd lleol?

Fel cynghorydd lleol, byddwch yn cymryd penderfyniadau a fydd yn cyffwrdd bywydau pawb sy’n ymweld â, yn gweithio neu’n byw yn Nhorfaen. Mae’n bwysig bod cynghorau lleol yn cynrychioli’r amrywiaeth gyfan o farn leol.

Etholir cynghorwyr gan bobl yn eu cymuned i’w cynrychioli a chymryd penderfyniadau ar eu rhan. Mae bod yn gynghorydd yn beth gwerth chweil, yn heriol ac yn rhywbeth i’w fwynhau, a gallwch newid bywydau pobl er y gorau. Gall bron unrhyw un fod yn gynghorydd, ac mae’n bwysig iawn bod amrywiaeth o bobl wahanol yn cael eu hethol i gynrychioli gwahanol gymunedau.

Beth mae’n ei olygu?

Mae cynghorwyr yn treulio o leiaf dri diwrnod yr wythnos ar waith y cyngor, ond gellir gwneud y gwaith o gwmpas swyddi eraill ac ymrwymiadau teuluol.

Cynhelir cyfarfodydd o’r cyngor llawn bob 6 wythnos. Efallai y bydd angen i chi fynychu cyfarfodydd eraill os cewch eich penodi i bwyllgor neu grŵp. Ar hyn o bryd, gellir mynychu pob cyfarfod yn rhithwir.

Bydd angen i chi dreulio amser yn eich cymuned a chyfathrebu gyda’r trigolion.

Mae cynghorwyr sir yn cael cyflog sylfaenol o £14,368 (2021/2022), ynghyd â lwfans teithio a mynediad at gynllun pensiwn. Mae aelodau o’r Cabinet, cadeiryddion pwyllgor ac uwch rolau eraill yn cael mwy.

Gall bron unrhyw un fod yn gynghorydd, ac mae’n bwysig iawn bod amrywiaeth o bobl wahanol yn cael eu hethol i gynrychioli gwahanol gymunedau.

Gallwch fod yn ymgeisydd os ydych:

  • dros 18
  • ar y gofrestr etholaethol
  • wedi byw, gweithio neu fod yn berchen ar eiddo yn y fwrdeistref sirol am o leiaf y 12 mis diwethaf.

Mae Cymru angen mwy o gynghorwyr sydd dan 40 oed, yn fenywod, yn anabl, yn LGBTQ+, yn Ddu neu’n Asiaidd neu o unrhyw grwpiau lleiafrifol eraill ac o amrediad o gredoau, diwylliannau ac amgylchiadau personol.

Mae gan ymgeiswyr anabl hefyd yr hawl i gyllid i’w helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’u hanallu, a allai fod yn rhwystr iddynt sefyll fel cynghorydd.

Nid ydych yn gymwys, neu gellir eich anghymhwyso os:

  • ydych yn gweithio i’r cyngor neu os oes gennych swydd wedi’i chyfyngu’n wleidyddol gydag awdurdod lleol arall.
  • ydych wedi eich datgan yn fethdalwr neu os oes gennych gollfarn droseddol flaenorol gyda dedfryd o garchar tri mis neu fwy.

Dylai darpar ymgeiswyr ofyn am gyngor cyfreithiol eu hunain os nad ydynt yn sicr os ydynt yn gymwys i sefyll.

Polisi Absenoldeb Teuluol i Aelodau Etholedig

Mae gan Aelodau etholedig hawl i absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhiant a rennir ar gyfer babanod sydd newydd gael eu geni a phlant sy’n cael eu mabwysiadu, ac absenoldeb rhiant.

Mae’r Polisi Absenoldeb Teuluol yn nodi faint o amser y gall Aelodau Etholedig ei gymryd ymhob achos.

Bydd aelodau'n parhau i dderbyn eu Lwfans Sylfaenol a'u Lwfans Cyfrifoldeb Arbennig tra eu bod ar gyfnod absenoldeb teuluol.

Mwy o wybodaeth