Cwynion a Chanmoliaeth - Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol

Complaints about Adult Services

Os ydych yn anfodlon â'r gwasanaethau gofal cymdeithasol rydych chi'n eu derbyn, mae gennych hawl i gwyno.

Rydym yn anelu i gynnal safonau uchel, ond ambell waith gall pethau fynd o chwith. Ni fyddwn yn gallu'ch helpu a cheisio unioni pethau os na fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn anfodlon.

Peidiwch â bod ofn cwyno. Rydym yn croesawu eich sylwadau, p'un ai ydynt yn gadarnhaol neu'n negyddol, oherwydd efallai y byddant yn ein helpu i wella ein gwasanaethau i bawb.

Mae dau gam i'r broses gwyno. Mae mwy o wybodaeth am y broses gwyno ar gael yn y daflen Cwynion - Sut i ddweud eich dweud.

Os nad ydych yn fodlon â'r ffordd yr aethom ati i ddelio â'ch cwyn, mae gennych hawl i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cofiwch bod gennych hawl i gwyno os nad ydych yn fodlon ag ansawdd y gwasanaethau yr ydych yn eu derbyn, ac mae'n ddyletswydd arnom i edrych i mewn i'ch cwyn a cheisio ei datrys.

Dewch i ni weithio gyda'n gilydd i gael pethau'n iawn.

Dweud am eich pryderon neu gwynion (yn agor mewn tab newydd)

Complaints about Childrens Services

Mae gan blant neu bobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau plant hawl i ddweud eu dweud am benderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, yn enwedig pan fyddant yn teimlo nad yw pethau'n iawn neu eu bod yn anfodlon â gwasanaeth.

Os ydych chi'n blentyn neu'n unigolyn ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau plant, peidiwch â chadw pethau i chi'ch hun os ydych chi'n teimlo bod angen i rywbeth newid, stopio neu os oes angen help arnoch i roi trefn ar bethau.

Dywedwch wrth rywun yr ydych yn teimlo y gallwch ymddiried ynddo/ynddi, a bydd ef/hi yn eich helpu.

Bydd y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) (yn agor mewn tab newydd) yn eich helpu i leisio eich barn er mwyn i chi gael eich clywed, i'ch hawliau gael eu bodloni a'ch problemau gael eu datrys.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau a sut i gwyno ar gael yn y daflen Trefn Gwyno ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.

Cael help i fynegi’ch pryder

Os oes angen help arnoch chi i fynegi pryder, gall Llais – eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol eich helpu i wneud hyn. Mae Llais yn gorff annibynnol a gall eu gwasanaeth Eiriolaeth am ddim gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i aelodau’r cyhoedd sydd efallai am fynegi pryder.

Gall Llais eich cefnogi i fynegi’ch pryder a gall roi cyngor ynglŷn â’r cam mwyaf priodol. Gallwch gysylltu â’ch swyddfa Llais lleol yn y cyfeiriad canlynol:

Canmoliaeth

A ydych wedi cael profiad da wrth ymdrin â'r gwasanaethau gofal cymdeithasol? A oes aelod o staff bod yn arbennig o gynorthwyol?

Os felly, efallai y byddech yn hoffi dweud wrthym am eich profiadau da.

Mae adborth o bob math yn bwysig i ni a hoffech wybod bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn gweithio'n dda.

Rheolwr Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth

Complaints & FOI Manager, Torfaen County Borough Council, Civic Centre, Pontypool, Torfaen, NP4 6YB