Lansio arolwg mynwentydd

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 18 Mai 2026
cemetery survey

Gofynnwn i drigolion rannu eu hadborth am fynwentydd Blaenafon, Panteg, Cwmbrân a Llwyncelyn drwy lenwi arolwg ar wefan ymgysylltu ac ymgynghori'r cyngor, Cymryd Rhan Torfaen.

Yn dilyn adolygiad ac arolwg mewnol yn 2024, gwnaed cyfres o welliannau i wasanaeth mynwentydd y Cyngor.

Roedd y rhain yn cynnwys gosod hysbysfyrddau ym mhob mynwent, a chyngor a gwybodaeth gwell ar-lein.

Arweiniodd hefyd at ddefnyddio staff yn fwy hyblyg ar draws timau Gweithrediadau Amgylchedd y Cyngor, i ymateb i'r newid yn y galw yn fwy effeithiol a sicrhau safonau da o ran cynnal a chadw’r tir a pharhad y gwasanaeth.

Mae’r wybodaeth am bolisïau mynwentydd wedi cael ei diweddaru ar wefan y Cyngor i'w gwneud yn gliriach i drigolion, yn unol ag un o argymhellion y pwyllgor craffu.

Cafwyd cyfarfodydd hefyd gyda threfnwyr angladdau ac ymwelwyr, yn rhan o ddull cydweithredol, yn unol â Bargen Torfaen, i archwilio cyfleoedd i gydweithio i wella deialog a rhannu gwybodaeth, ac i wella amgylchedd cyffredinol y mynwentydd.

Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydyn ni’n gobeithio bod y newidiadau rydyn ni wedi'u cyflwyno wedi gwella profiad y bobl sy'n ymweld â'n mynwentydd.

Rydyn ni eisiau parhau i wrando ar drigolion ac ystyried eu hadborth yn unol â threfniadau newydd Bargen Torfaen, sy'n anelu at ddylunio a darparu gwasanaethau gyda chymunedau."

Rhannwch eich barn drwy'r arolwg ar cymrydrhan.torfaen.gov.uk o ddydd Llun 18 Mai tan hanner nos, nos Sul 14 Mehefin, 2026.

Gallwch hefyd ddod i un o'r sesiynau galw-heibio:

  • Dydd Llun 1 Mehefin (10am tan 2pm) ym Mynwent Llwyncelyn a Chwmbrân, Llwyncelyn Drive, Cwmbrân, NP44 7PF
  • Dydd Mawrth 2 Mehefin (10am tan 2pm) ym Mynwent Blaenafon, Varteg Road, Blaenafon NP4 9DY
  • Dydd Mercher 3 Mehefin (10am tan 2pm) ym Mynwent Panteg, The Highway, Pont-y-pŵl NP4 8HW

Mae pob sesiwn wyneb yn wyneb yn trafod pob un o fynwentydd Torfaen, felly gallwch ddod i unrhyw sesiwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Mae Cyngor Torfaen wedi ymrwymo i wella'n barhaus a byddai'n croesawu eich adborth i helpu i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i ddiwallu anghenion trigolion.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/05/2026 Nôl i’r Brig