Dirwy o £750k I Morrisons am fethiannau hylendid

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 8 Mai 2026
May Morrisons bakery

Heddiw, mae'r gadwyn archfarchnadoedd genedlaethol WM Morrisons Supermarkets Ltd wedi cael dirwy o dros £750,000 ar ôl pledio'n euog i bedair trosedd yn ymwneud â hylendid bwyd yn ei siop yng Nghwmbrân.

Yn Llys Ynadon Casnewydd, cafodd yr archfarchnad ddirwy o £737,000 (gostyngiad i’r £1.1 miliwn am iddi bledio’n euog yn gynnar), a gorchymyn i dalu costau o £11,221.38 i’r Cyngor ynghyd â gordal dioddefwr o £2,000.

Mewn archwiliad arferol gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor ym mis Awst 2024,  cafwyd hyd i nifer o achosion o dorri rheolau hylendid yn y becws, gan gynnwys glendid gwael, cyfarpar aflan, goruchwyliaeth staff annigonol, a methiannau wrth reoli diogelwch bwyd. Caewyd y becws ar unwaith er mwyn glanhau'r safle’n drylwyr.

Nododd swyddogion 51 o fylchau yn system rheoli diogelwch bwyd y siop, yr oedd rheolwyr wedi bod yn ymwybodol ohonynt ers dros fis.

Wrth gyflwyno’i dedfryd, nododd y Barnwr Rhanbarthol Toms, nad dim ond achos am ambell i weithiwr gwael oedd hwn, ond yn hytrach methiannau difrifol a systemig ar bob lefel ar draws y sefydliad.

Byddai'r tîm cyfan wedi gallu gweld y cyflwr yr oedd y Becws yn mynd iddo.

Hyd yn oed gyda hyfforddiant hylendid bwyd, dylai fod goruchwyliaeth well wedi bod a, diolch byth, cerddodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yr awdurdod lleol i mewn.

Mae Morrisons wedi peryglu iechyd, llesiant a diogelwch cwsmeriaid ffyddlon, ac, o bosibl, hyd yn oed wedi peryglu bywydau.

Dyma un o'r archfarchnadoedd mwyaf, mae'n cael ei rhedeg gan deulu, mae gan bobl ffydd ynddi ac mae’n rhoi'r argraff ei bod y pryderu. Methodd â gweithredu.

Meddai Daniel Morelli, Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd a'r Amgylchedd: "Mae'r achos hwn yn dangos gwaith pwysig ein swyddogion wrth gynnal gwiriadau annibynnol i sicrhau bod y bwyd rydyn ni'n ei brynu yn ddiogel i'w fwyta.

"Nid yw pobl yn gweld y gwaith maen nhw’n ei wneud bob tro, ond maen nhw'n chwarae rhan hanfodol wrth atal salwch, trwy nodi achosion o ddiffyg cydymffurfio a chymryd camau i sicrhau gwelliannau angenrheidiol, diogelu'r cyhoedd, a lleihau cost salwch a baich ar y GIG.

“Er y gwneir pob ymdrech i weithio gyda busnesau trwy ddull anffurfiol, addysgiadol, ni fydd y Cyngor yn oedi rhag cymryd camau ffurfiol lle mae iechyd a llesiant defnyddwyr yn y fantol."

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch bwyd a safonau hylendid mewn busnes bwyd yn Nhorfaen, cysylltwch â ni drwy ffonio'r Tîm Diogelu Bwyd ac Iechyd ar 01633 648009 neu anfon neges trwy e-bost i: foodandhealthprotection@torfaen.gov.uk 

Diwygiwyd Diwethaf: 08/05/2026 Nôl i’r Brig