Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 17 Mehefin 2026
Mae dyn wedi cael dirwy am fethu â chynorthwyo gydag ymchwiliad i dipio anghyfreithlon ar ôl i ddarn blaen cerbyd gael ei adael mewn maes parcio ym Mlaenafon.
Dywedodd tyst ei fod wedi gweld lori cefn gwastad Ford Transit yn gadael y darnau - y credir eu bod o fan - mewn maes parcio cyhoeddus, yn Nhŷ Mynydd Close, ym mis .Tachwedd 2024.
Dangosodd ymchwiliad mai Philip Frost, o Wedgewood Court, yng Nghaerffili, oedd perchennog cofrestredig y lori.
Ysgrifennodd swyddogion o wasanaeth Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor at Mr Frost ar ddau achlysur yn gofyn iddo esbonio pam fod cerbyd a gofrestrwyd yn ei enw ef yn gysylltiedig â’r digwyddiad.
Pan fethodd ag ymateb, rhoddwyd hysbysiad iddo o dan Adran 108 Deddf yr Amgylchedd 1995, a oedd yn ei gwneud yn gyfreithiol ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth yn ymwneud â'r digwyddiad.
Ddydd Iau, cafodd Mr Frost ei erlyn yn Llys Ynadon Cwmbrân am fethu â chydymffurfio â'r hysbysiad cyfreithiol, a’i gael yn euog yn ei absenoldeb.
Cafodd orchymyn i dalu dirwy o £1,100, gordal dioddefwr o £440 a chostau'r Cyngor, sef £1003.52. Cyfanswm o £2,543.52.
Meddai Daniel Morelli, Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd, yr Economi a'r Amgylchedd: "Rydyn ni’n gobeithio bod hyn yn anfon neges glir at unrhyw un sy'n meddwl y bydd y mater yn diflannu os byddan nhw’n anwybyddu ein hymholiadau i dipio anghyfreithlon.
"Mae gennym bwerau i’w gwneud yn gyfreithiol ofynnol i bobl ateb cwestiynau lle rydyn ni'n credu bod ganddyn nhw wybodaeth a allai ein helpu. Mae hyn yn dangos pa mor ddifrifol yw tipio anghyfreithlon yn ein cymunedau yn llygaid y Cyngor a'r gyfraith."
Gallwch riportio tipio anghyfreithlon trwy wefan y Cyngor neu ap FyNhorfaen.