Lansio ymgyrch codi arian ar gyfer gardd goffa newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Gorffennaf 2026
Memorial Garden

Yr wythnos hon, lansiwyd ymgyrch codi arian i gael £50,000 ar gyfer gardd goffa yng Nghwmbrân i anrhydeddu tri milwr lleol a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu yn Afghanistan.

Bydd y gofeb yn coffáu'r Preifat Kyle John Adams, y Preifat James Prosser a'r Corporal Michael John Thacker, a laddwyd yn ystod cyrchoedd gwahanolyn Nhalaith Helmand rhwng 2009 a 2012.

Bydd yn cael ei hadeiladu yng Ngerddi Llantarnam Grange, ger canol y dref, a bydd yn cynnwys murlun ochr yn ochr â gardd myfyrio bwrpasol.

Daeth aelodau o'r teuluoedd, cyn-filwyr a chynrychiolwyr o sefydliadau lleol ynghyd ar y safle ddydd Mercher i lansio'r ymgyrch codi arian yn swyddogol.

Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd Hwb Cyn-filwyr Torfaen, M Cwmbrân, Cymdeithas Cyn-Filwyr Cwmbrân a'r Cylch (CADESA), Peirianwyr Brenhinol Sir Fynwy (Militia) ac aelodau o'r gymuned gyn-filwyr.

Dywedodd Sarah Adams MBE, mam y Preifat James Prosser:

"Mae'n emosiynol. Mae'n emosiynol meddwl bod James mewn cofeb. Dydych chi byth eisiau hynny. Ond rydw i mor ddiolchgar i bawb sydd wedi gwneud yr ymdrech i wneud hyn iddyn nhw.

"Rwyf wedi cael fy nghefnogi yr holl ffordd ers 2009 gan Dorfaen, yr hybiau cyn-filwyr a CADESA. Maen nhw i gyd wedi bod yn anhygoel, felly rwy'n ddiolchgar iawn."

Croesawodd John a Moira Adams, rhieni'r Preifat Kyle Adams, lansiad yr ymgyrch hefyd.

Dywedodd Moira: "Mae'n braf cael rhywle lleol. Gall pobl ddod i gofio, gall eu ffrindiau ddod i eistedd i lawr a'u cofio.

"Mae'n teimlo'n real ac fel petai'n digwydd. Cyn hyn roedd yn rhywbeth a allai ddigwydd, ond nawr mae'n digwydd.

Dywedodd Zoe Gibbs, o Hwb Cyn-filwyr Torfaen: "Bydd yr ardd goffa yn darparu lle i bobl gofio Kyle, James a Michael, a chydnabod cyfraniad milwyr o'n cymuned.

"Mae wedi cymryd rhai blynyddoedd i gyrraedd y pwynt yma, ac mae’n enghraifft wych o ddull strategol newydd y cyngor o weithio gyda chymunedau a phartneriaid.

Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn rhywle y gall teuluoedd, ffrindiau a thrigolion ymweld ag e am flynyddoedd i ddod."

Mae'r trefnwyr bellach yn ceisio cefnogaeth gan drigolion, busnesau a sefydliadau i helpu i ariannu'r gofeb a’r ardd.

Fel prosiect a arweinir gan y gymuned, mae'n dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd i gyrraedd y targed o £50,000 a chreu teyrnged barhaol i'r tri milwr.

Donations can be made via GoFundMe

Roedd y Preifat Kyle John Adams, 21 oed, yn gwasanaethu gyda'r Gatrawd Parasiwt pan gafodd ei ladd ar 6 Awst 2009 ar ôl i'w gerbyd gael ei daro yn ystod patrôl ger Lashkar Gah.

Roedd y Preifat James Prosser, 21 oed, yn gwasanaethu gydag 2il Fataliwn Y Cymry Brenhinol pan gafodd ei ladd ar 27 Medi 2009 ar ôl i'r cerbyd yr oedd yn ei yrru daro dyfais ffrwydrol yn Nhalaith Helmand.

Gwasanaethodd y Corporal Michael John Thacker, 27 oed, gyda Bataliwn 1af y Cymry Brenhinol a chafodd ei ladd ar 1 Mehefin 2012 tra roedd yn cadw safle arsylwi yn Nhalaith Helmand.
Diwygiwyd Diwethaf: 03/07/2026 Nôl i’r Brig