Cadwyn archfarchnad genedlaethol yn pledio'n euog i droseddau hylendid bwyd

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 7 Ionawr 2026

Mae WM Morrison Supermarkets wedi pledio'n euog i bedair trosedd yn ymwneud â hylendid bwyd yn eu siop yng Nghwmbrân.

Cynhelir gwrandawiad dedfrydu ar 7 Mai 2026 yn Llys Ynadon Casnewydd.

Yn ystod arolygiad hylendid bwyd arferol ym mis Awst 2024, nododd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd sawl trosedd yn ymwneud â hylendid bwyd yn yr adran becws.

Roedd y troseddau yn cynnwys methu â chadw'r safle mewn cyflwr glân, methu â chadw offer sy'n dod i gysylltiad â bwyd yn lân, methu â diffyg goruchwylio unigolion sy’n trin bwyd yn ddigonol, a methu â gweithredu a chynnal gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd.

Caewyd y becws ar unwaith oherwydd risgiau diogelwch bwyd ac roedd angen mynd ati i lanhau’n drwyadl cyn ailagor. Ar ôl derbyn Sgôr o 1 i ddechrau (angen gwelliant mawr), dyfarnwyd sgôr o 4 (da) yn dilyn ail-arolygiad ym mis Hydref 2024 ar ôl gwelliannau sylweddol.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae'r achos hwn yn dangos pa mor bwysig yw gwaith ein swyddogion wrth gynnal gwiriadau annibynnol i sicrhau bod y bwyd rydyn ni'n ei brynu yn ddiogel i'w fwyta.

"Mae eu gwaith yn aml yn ddisylw, ond maen nhw'n chwarae rhan hanfodol wrth atal salwch trwy ganfod achosion o ddiffyg cydymffurfio, a chymryd camau i sicrhau gwelliannau angenrheidiol, diogelu'r cyhoedd, a lleihau costau salwch a baich ar y GIG."

Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i ddefnyddio dull anffurfiol, addysgol wrth weithio gyda busnesau, ni fydd y Cyngor yn oedi cyn cymryd camau ffurfiol os oes perygl i iechyd a lles defnyddwyr.”

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch bwyd a safonau hylendid mewn busnes bwyd yn Nhorfaen, cysylltwch â ni drwy ffonio'r Tîm Diogelu Bwyd ac Iechyd ar 01633 648009 neu drwy anfon e-bost i: foodandhealthprotection@torfaen.gov.uk  

Dysgwch fwy am sgoriau hylendid bwyd yma

Diwygiwyd Diwethaf: 09/01/2026 Nôl i’r Brig