Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 6 Mai 2025
Mae ymgyrch wedi ei lansio i daclo’r broblem baw cŵn sydd ar gynnydd wrth i’r rheini sy’n berchen ar gi fethu â chodi’r baw ci pan fydd eu ci wedi baeddu mewn man cyhoeddus.
Bydd menter Codwch e! yn golygu y bydd y cyngor yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon, grwpiau gwirfoddol ac ysgolion i dynnu sylw at achosion o faw cŵn mewn cymunedau lleol, i atal a rhybuddio trigolion eraill.
Byddant hefyd yn cofnodi nifer yr achosion y byddant yn dod ar eu traws – gwybodaeth a fydd yn cael ei throsglwyddo i'n tîm gorfodi sifil.
Fel rhan o'r ymgyrch dan arweiniad y cyngor, crëwyd 200 o becynnau atal baw cŵn, yn cynnwys baneri, sticeri i roi ar finiau, stensiliau a chwistrellwyr sialc yn dangos y logo Codwch e!.
Un o'r grwpiau cyntaf i ymuno â'r ymgyrch yw Cymdeithas Cadwraeth Trigolion Llantarnam.
Dywedodd Bethan Lewis, is-gadeirydd: “Ein gobaith yw, trwy fonitro a thynnu sylw at faw cŵn yng Ngerddi Blodau Cae Derw, yng Nghwmbrân, y byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth o effaith baw cŵn ar eraill sy’n defnyddio’r gerddi, yn enwedig plant ifanc. Byddwn yn annog y lleiafrif o bobl sy’n berchen ar gi, nad ydynt yn clirio ar ôl eu hanifeiliaid anwes, i wneud hynny.”
Mae clwb pêl-droed Celtaidd Cwmbrân hefyd wedi derbyn pecyn.
Meddai Steve Roberts, un o wirfoddolwyr y clwb: “Rydyn ni'n ceisio gofalu cystal ag y gallwn am y caeau, ond mae baw cŵn yn broblem i ni, a dyna pam rydyn ni'n cefnogi ymgyrch Codwch e!.
“Os ydych chi'n berchen ar gi, codwch y baw ci ar ei ôl ac ewch ag ef gartref fel y gallwch gael gwared arno, da chi. Nid oes unrhyw un o aelodau ein tîm am gamu neu'n syrthio mewn baw ci wrth hyfforddi neu chwarae mewn gêm.”
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Rydym yn gobeithio y bydd ymgyrch Codwch e! yn trawsnewid ein palmentydd a'n mannau cyhoeddus fel eu bod yn ardaloedd glanach, mwy diogel a mwy pleserus. Mae camu mewn baw ci nid yn unig yn ffiaidd ond hefyd yn peri risg sylweddol i iechyd, felly gadewch i ni gydweithio i wneud newid cadarnhaol.
“Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch hon yn annog pobl sy’n berchen ar gŵn i fod yn fwy cyfrifol ac atal eu cŵn rhag baeddu.”
Mae cynghorwyr lleol hefyd wedi derbyn pecynnau Codwch e!.
Os ydych chi'n grŵp gwirfoddol, grŵp cymunedol, clwb chwaraeon neu ysgol ac eisiau ymuno ag ymgyrch Codwch e!, e-bostiwch pickitup@torfaen.gov.uk i gael pecyn am ddim.
Mae methu â chodi baw ci ar ôl iddo faeddu mewn man cyhoeddus yn drosedd, a gallech wynebu cosb o £100.
Gall pobl sy’n berchen ar gŵn rhoi’r baw ci mewn bag ac i mewn i unrhyw fin sbwriel yn y fwrdeistref.
Gofynnir i aelodau'r cyhoedd gefnogi'r ymgyrch drwy roi gwybod ar-lein neu ar ap Fy Nhorfaen os ydynt yn dod ar draws baw cŵn.
Mae ymgyrch Codwch e! wedi'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.