Wedi ei bostio ar Dydd Iau 4 Rhagfyr 2025
Mae cam cyntaf prosiect ail-wynebu heolydd y cyngor, a elwir yn ymgyrch Ffyrdd Gwell, bellach wedi'i gwblhau.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae 38 o ffyrdd wedi cael eu hailwynebu diolch i fuddsoddiad ychwanegol o £6.4m i wella ffyrdd lleol dros y pum mlynedd nesaf.
Mae'r buddsoddiad yn dilyn arolwg o briffyrdd a ganfu, er bod y rhan fwyaf o brif ffyrdd yn bodloni safonau cenedlaethol, bod angen atgyweirio llawer o ffyrdd cefn.
Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Diolch i waith caled ein contractwyr a chefnogaeth y gymuned, rydym wedi cwblhau cam un yn llwyddiannus.
"Bydd rownd arall o ail-wynebu y flwyddyn nesaf, gan barhau â'n hymrwymiad i gynnal a gwella seilwaith y fwrdeistref.
"Bydd manylion y ffyrdd sydd wedi'u cynnwys yn y cam nesaf yn cael eu rhannu yn gynnar yn y gwanwyn."
Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan £4m mewn buddsoddiad cyfalaf ychwanegol a £2.44m o Gynllun Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru. Bydd yn mynd ochr yn ochr â rhaglen cynnal a chadw priffyrdd blynyddol y cyngor.
Bydd diweddariadau wythnosol ar ffyrdd sydd yn mynd i gael eu hailwynebu yn cael eu rhannu trwy fwletin Newyddion Wythnosol y cyngor a'r cyfryngau cymdeithasol – chwiliwch #BetterRoadsTorfaen.
Gallwch hefyd gofrestru am e-byst Da gwybod ar gyfer cau ffyrdd a gwaith argyfwng.