Ysgol Croesyceiliog

Disgrifiad:

Ysgol gyfun yw Croesyceiliog sydd â mwy na 1,500 o ddisgyblion, rhwng 11 a 19 oed, ar y gofrestr. O dan reoliadau Llywodraeth Cynulliad Cymru, diffinnir yr ysgol fel 'Ysgol Uwchradd Saesneg yn Bennaf'.

Crëwyd yr ysgol ym 1971 trwy gyfuno'r Ysgol Ramadeg (a agorodd ym 1959) a'r Ysgol Uwchradd (a agorodd ym 1957).

Mae pedwar adeilad yr ysgol wedi'u lleoli mewn chwe deg erw o goetir a meysydd chwarae wrth ochr Afon Llwyd.

Mae'r goedwig a'r afon yn cynnig cyfleoedd gwych i'n disgyblion wneud gwaith maes ac astudiaethau ecolegol. Crëwyd ardal gadwraeth, sy'n cynnwys dôl blodau gwyllt, gyda chymorth ein hymgeiswyr ar gyfer Gwobr (Aur) Dug Caeredin.

Mae cyfleusterau'r ysgol yn cynnwys Adeilad Chweched Dosbarth, Adeilad Celf a Thechnoleg, Swît Gerddoriaeth, dwy Stwidio Ddrama, tair Campfa, Swît Ffitrwydd o'r radd flaenaf a meysydd chwarae helaeth.

Bob blwyddyn, mae canran uchel iawn o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn aros mewn Addysg, gyda llawer ohonynt yn dewis o blith amrywiaeth o gyrsiau yn ein Chweched Dosbarth.

Mae gennym ni fwy na 90 o staff addysgu ac fe'u cefnogir gan 'Nyrs' Ysgol, Llyfrgellydd, Cynorthwywyr Addysgu, Ysgrifenyddion, Technegwyr a Gofalwyr.

 

Ward:
Croesyceiliog North
Cyfeiriad:
Woodland Road
Croesyceiliog
Cwmbrân
Torfaen
NP44 2YB
Ffôn:
01633 645900
Ffacs:
01633 645901
E-bost:
info@croesy.schoolsedu.org.uk
Gwefan:
https://www.croesyceiliog.org.uk/
Adroddiad Arolygu:
Gweld adroddiad arolygu'r ysgol
Manylion Pellach
Pennaeth:
Natalie Richards
Cadeirydd y Llywodraethwyr:
Joanne Gauden
Math o ysgol:
Ysgol Uwchradd
Rheolaeth Ysgol:
Awdurdod Lleol
Iaith yr Ysgol:
Saesneg
Math o Gludiant Ysgol Sydd Ar Gael:
Na
Ystod Oed:
11-18 oed
Amser Dechrau:
08:40
Amser Gorffen:
15:05
Manylion Derbyn:
Rhif Mynediad:
240
Admission Start Date:
Dydd Llun 2 Hydref 2017
Admission End Date:
Dydd Iau 30 Tachwedd 2017
Nifer yr Ymgeiswyr (Medi 2017):
289
Nifer y Lleoedd a Rhoddwyd (Medi 2017):
276
Diwygiwyd Diwethaf: 27/11/2023 Nôl i’r Brig