Ymwybyddiaeth Iselder

Disgrifiad:

Bydd y cwrs e-ddysgu Ymwybyddiaeth Iselder yma’n codi ymwybyddiaeth o iselder a sut mae modd ei adnabod, rhoi diagnosis ohono, ei ddosbarthu a’i drin.

Mae’r cwrs ar-lein Ymwybyddiaeth Iselder yn dechrau trwy edrych ar ddiagnosis cyn symud ymlaen i ddiffinio’r mathau amrywiol o iselder; byddwch yn dysgu hefyd am anhwylderau eraill.

Bydd y cwrs Ymwybyddiaeth Iselder ar-lein wedyn yn edrych ar achosion iselder a’r ffactorau pob dydd sy’n gallu ei wneud yn fwy heriol i’w reoli’n effeithiol.

Ar y cwrs e-ddysgu Ymwybyddiaeth Iselder, byddwch yn dysgu am symptomau iselder mewn oedolion, pobl ifanc a phlant a sut i gael help.

Bydd yna wybodaeth i’ch helpu i ddeall sut i adnabod iselder seicotig a sut mae ei drin

Bydd y cwrs Ymwybyddiaeth Iselder hefyd yn edrych ar effeithiau corfforol a chymdeithasol iselder, gan gynnwys effeithiau ar y rheiny sy’n byw â rhywun ag iselder.

 

Bydd technegau rheoli iselder a thriniaethau’n cael eu cynnwys, gan gynnwys Therapi Ymddygiad Gwybyddol, Therapi Ymddygiad Dilechdidol, Atalyddion Aildderbyn Serotonin Dethol (SSRI), technegau ymlacio a rheoli hwyliau.

 

Yn olaf, byddwn ni’n dangos rôl deiet, ymarfer corff a rheoli cydbwysedd bywyd-gwaith a ffordd o fyw.

Categori:
Addysg Gyffredinol
Lefel
None
Manylion y Cwrs
Lleoliad:
Canolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog
Iaith:
English
Cost:
Angen Tâl
Amserlen y Cwrs
Dyddiad Cychwyn:
04/12/2023
Dyddiad Gorffen:
04/12/2026
Expiry Date:
04/12/2028
Manylion Cyswllt:
Diwygiwyd Diwethaf: 13/12/2023 Nôl i’r Brig