Y Darlun Mawr
Bob diwrnod o'r flwyddyn mae gennym filoedd o staff wrthi’n darparu cannoedd o wasanaethau i wella bywydau dinasyddion yn Nhorfaen, ond beth yw'r weledigaeth gyffredin sy'n dod â ni i gyd at ei gilydd?
Rydym yn cyfeirio ato fel y 'llinyn aur' - y cyfraniad mae pawb yn ei wneud i'r Darlun Mawr, drwy helpu i wneud Torfaen yn le diogel, ffyniannus a chynaliadwy, lle mae pawb yn cael y cyfle i fod y gorau y gallant.
Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi sut y byddwn yn cyflawni'r weledigaeth hon ac yn sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir a fydd yn gwella bywydau ein dinasyddion a'n cymunedau.