Fi a Fy Ngweithle
Ein hased bwysicaf? Nid ein hadeiladau, cyfleusterau, gwasanaethau na’n cronfa wrth gefn, ond chi. Mae Fi a Fy Ngweithle yn anelu i’w wneud yn hawdd i chi lwyddo yn eich gyrfa gyda Chyngor Torfaen. Yma, fe gewch hyd i’r swyddi gwag diweddaraf, cyfleoedd hyfforddi, gwybodaeth am gyflog a rhai o fanteision gweithio i sefydliad sy’n parchu ac yn gwerthfawrogi ei weithwyr, ac un sy’n glynu at ei werthoedd, sef bod yn gefnogol, teg ac effeithiol.