Bathodynnau Glas ar gyfer sefydliadau

Caiff sefydliad ei ddiffinio mewn deddfwriaeth fel “Sefydliad sy'n ymwneud â gofalu am unigolion anabl y mae modd rhoi bathodyn unigolyn anabl ar eu cyfer”.

Bydd bathodynnau sefydliadol dim ond yn cael eu rhoi felly i sefydliad sy'n:

  • Cludo a gofalu am bobl anabl sy'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwyster ar gyfer bathodyn glas unigol 
  • Ac sydd ag angen clir am fathodyn sefydliadol yn hytrach na defnyddio bathodynnau glas unigol y bobl y mae'n eu cludo

Dylai'r bobl anabl o dan ofal y sefydliad fodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwyster canlynol am fathodyn glas:

  • Cael Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl
  • Cael yr Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel 
  • Yn gymwys i gael cerbyd wedi'i addasu a gynorthwyir gan grant arbennig
  • Wedi'u cofrestru'n ddall
  • Bod ag anabledd parhaol a sylweddol ac na allant gerdded neu sy'n cael anhawster sylweddol wrth gerdded 

Lle mae nifer gymharol fach o bobl yn bodloni'r meini prawf cymhwyster am fathodyn sefydliadol, byddai'n well i'r unigolyn neu unigolion anabl ymgeisio am y bathodynnau, yn hytrach na rhoi un bathodyn i sefydliad. Mae hyn felly yn caniatáu i'r deiliad ddefnyddio'r bathodyn mewn unrhyw gerbyd y mae'n teithio ynddo. 

Caiff bathodyn ei roi i sefydliad os oes ganddo gerbydau wedi'u trwyddedu o dan y dosbarth treth Teithiwr Anabl (DPV). Mae'n annhebygol y byddai tacsi neu weithredwr cerbydau preifat a gweithredwyr cludiant cymunedol yn gymwys am fathodyn glas sefydliadol, gan nad ydynt yn ymwneud fel arfer â gofalu am bobl anabl a fyddai'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwyster. 

Caiff bathodynnau eu rhoi i'r sefydliad neu adran ac nid i unigolion a enwir. 

Gallwch wneud cais trwy ddefnyddio'r Ffurflen Bathodyn Glas Sefydliadol.

Er mwyn prosesu eich cais, bydd arnom angen y canlynol:

  • Copi o'ch eithriad treth mewn perthynas â DPV neu lythyr o gadarnhad gan y DVLA (os yn gymwys)
  • Copi o logo'r cwmni (caiff ei drosglwyddo i'r bathodyn)
  • Ffi weinyddu o £10.00 - ni allwn ad-dalu hyn
Diwygiwyd Diwethaf: 12/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig