Gorfodi Parcio Sifil (GPS)

Beth yw ystyr Gorfodi Parcio Sifil?

Mae Gorfodi Parci Sifil (GPS) yn golygu bod y cyfrifoldeb am orfodaeth mewn perthynas â’r mwyafrif o gyfyngiadau ar barcio ar y stryd nawr gyda’r awdurdod lleol yn hytrach na’r heddlu.

Dechreuodd GPS yn Nhorfaen ar ddydd Llun 01 Gorffennaf 2019 mewn perthynas â chyfyngiadau ar barcio ar y stryd yn ogystal â rhai o feysydd parcio’r cyngor oddi ar y ffordd fawr ym Mhont-y-pŵl.

Rheolau parcio

Nid oes unrhyw newidiadau i’r rheoliadau parcio fel y nodir yn y Cod Priffyrdd ers i’r cyngor gymryd drosodd Gorfodi Parcio Sifil ar 1 Gorffennaf.

Os ydych wedi parcio yn rhywle y tu allan i’r rheoliadau parcio o’r blaen ac os ydych yn parhau i barcio yno, gallwch dderbyn Hysbysiad Tâl Cosb gan un o’n Swyddogion Gorfodi Parcio Sifil a’r Amgylchedd.

Dysgwch am ddarpariaeth barcio yn Torfaen.

Swyddogion Gorfodi Sifil

Gall ein Cyd-swyddogion Gorfodi Parcio Sifil a’r Amgylchedd orfodi troseddau amgylcheddol a chyfyngiadau parcio ar y briffordd gyhoeddus os bydd cerbyd wedi ei barcio’n anghyfreithlon.

Mae hyn yn cynnwys:

  • torri cyfyngiadau parcio e.e. llinellau melyn dwbl neu sengl
  • aros yn rhy hir mewn bae parcio (ar y stryd ac mewn rhai meysydd parcio oddi ar y stryd)
  • parcio ar draws cyrbau isel
  • parcio mwy na 50cm o ymyl y palmant

Bydd troseddau traffig eraill yn parhau i gael eu trin gan Heddlu Gwent, gan gynnwys troseddau traffig sy’n symud, parcio peryglus a pharcio sy’n achosi rhwystr ac ati.

Nid yw’r cyngor yn bwriadu cyflwyno trefniadau clampio cerbydau neu eu cymryd ymaith ar hyn o bryd.

Hysbysiadau Tâl Cosb (HTCau)

Bydd y ddirwy am unrhyw droseddau GPS naill ai’n £70, yn gostwng i £35 os telir o fewn 14 diwrnod, neu’n £50 am droseddau parcio is, unwaith eto yn gostwng i £25 os telir o fewn 14 diwrnod, a’r posibilrwydd o gynyddu 50% os na thelir o fewn 28 diwrnod.

Mae deddfwriaeth yn gofyn bod arian o HTCau yn cael ei ddefnyddio i dalu costau gweithredu’r gwasanaeth gorfodi, gydag unrhyw warged yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau priffyrdd/traffig fel sy’n ofynnol dan y ddeddfwriaeth.

Ni fydd gan y Swyddogion Gorfodi Parcio Sifil a’r Amgylchedd dargedau i gyflwyno nifer penodol o HTCau.

Proses apelio

Os ydych eisiau herio HTC, dilynwch y cyfarwyddiadau ar gefn yr hysbysiad a chyflwyno her ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod o dderbyn y tocyn.

Os gwrthodir eich her, caiff y gyfradd is ei hailgychwyn am 14 diwrnod arall.

Peidiwch ag anwybyddu HTC oherwydd bydd y tâl yn cynyddu os na chaiff ei dalu neu os na chyflwynir her.

Gall unrhyw oedi pellach arwain at gymryd camau gan asiantiaid gorfodi (beilïaid), gyda’u costau nhw yn cael eu hychwanegu i’r ddyled sifil.

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar y dudalen Cwestiynau Cyffredin Gorfodi Parcio Sifil 

Deiliaid Bathodyn Glas

Nid yw GPS yn newid y rheolau parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas.

Gall deiliaid bathodyn glas dderbyn HTC o hyd am rai achosion o dorcyfraith parcio, cyfeiriwch at y llyfryn canllaw a gyflwynwyd gyda’ch bathodyn glas i gael y manylion.

Dysgwch fwy am y Cynllun Bathodyn Glas yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/11/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Highways Transportation

Ffôn: 01495 762200

Ebost: highways.transportation@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig