Cwestiynau Cyffredin Gorfodi Parcio Sifil

Beth yw ystyr Gorfodi Parcio Dinesig (GPS)?

Dechreuodd Gorfodi Parcio Sifil (GPS) yn Nhorfaen ar Ddydd Llun 01 Gorffennaf 2019 mewn perthynas â chyfyngiadau ar barcio ar y stryd, yn ogystal â rhai o feysydd parcio oddi ar y stryd y cyngor ym Mhont-y-pŵl.

Yr awdurdod lleol yn hytrach na'r heddlu sy'n gyfrifol nawr am orfodaeth mewn perthynas â'r mwyafrif o gyfyngiadau ar barcio ar y stryd.

Pam fod y Cyngor yn gyfrifol am GPS?

Tynnodd Heddlu Gwent yn ôl o orfodaeth ar barcio ar draws rhanbarth Gwent ar 30 Mehefin 2019, ac fel yr unig sefydliad arall sy'n gallu ceisio am y grymoedd yma, cymerodd y cyngor drosodd gyfrifoldebau GPS at 1 Gorffennaf 2019.

Beth yw manteision GPS?

Prif fanteision GPS yw?

  • Gwell diogelwch ffordd i yrwyr a cherddwyr, gan osgoi damweiniau ac achub bywydau
  • Gwell llif traffig o fudd i'r economi a'r amgylchedd
  • Gwell gwelededd wrth gyffyrdd
  • Gostyngiad mewn tagfeydd gan arwain at well ansawdd awyr
  • Gwell trosiant o leoedd parcio
  • Gwell diogelwch cymunedol rhag parcio anghyfreithlon a difeddwl a gorfodaeth ar gynlluniau parcio trigolion
  • Mae'n rhyddhau'r heddlu i daclo troseddau

Pa fath o dor-cyfraith sy'n cael ei gynnwys yn y GPS?

Gall parcio'n anghywir arwain at gael Hysbysiad Tâl Cosb (HTC). Gall y troseddau yma gynnwys, heb fod yn gyfyngedig i; barcio ar linellau melyn, aros yn hirach na'r terfynau amser mewn cilfachau parcio, parcio ar linellau igam-ogam wrth groesfannau i gerddwyr, parcio ar draws cyrbiau isel a pharcio mwy na 50cm o ymyl y palmant.

Gall parcio'n anghywir, hyd yn oed am ychydig funudau, achosi anghyfleustra a hyd yn oed perygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd a cherddwyr - dyna pam mae hi mor bwysig i orfodi cyfyngiadau parcio fel y bydd gyrwyr yn fwy awyddus i barcio'n ddiogel ac yn gyfreithlon. Bydd hyn felly'n lleihau'r anghyfleustra a'r perygl y mae gyrwyr a defnyddwyr y ffordd yn wynebu pob dydd.

Beth yw'r newidiadau i reolau parcio?

Dim - does dim newid i'r rheolau parcio fel rhan o GPS. Yr unig wahaniaeth y byddwch chi'n sylwi arno yw pwy sy'n rhoi'r tocyn a sut fydd y broses dalu/apeliadau'n cael ei gweinyddu. Nid yr heddlu sy'n gwneud hyn bellach, ond y cyngor a Grŵp Parcio De Cymru.

Ers rhai blynyddoedd, mae adnoddau cyfyngedig wedi golygu fod yr heddlu ond wedi gallu rhoi blaenoriaeth isel i orfodaeth ar droseddau parcio. Oherwydd bod awdurdodau lleol yn derbyn nifer o gwynion am barcio anghyfreithlon neu ddifeddwl, rydym yn ei ystyried yn flaenoriaeth llawer uwch ac rydym wedi cymryd camau gan ddefnyddio'r adnoddau mwy sydd ar gael trwy GPS. Felly byddwch efallai'r derbyn Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) am barcio'n rhywle yr ydych wedi parcio o'r blaen oherwydd bod ein Swyddogion Gorfodaeth Parcio Sifil ac Amgylchedd ar y Cyd nawr ar batrôl

Eglurhad o gyfrifoldebau gorfodaeth

Dylid nodi y bydd yr Heddlu’n cadw cyfrifoldeb am orfodaeth am yrwyr sy'n parcio'n beryglus, yn rhwystrol heb dorri gorchymyn rheoleiddio traffig, troseddau gorgyflymder cerbydau a throseddau traffig symudol e.e. gwahardd moduron (ac eithrio ar gyfer mynediad).

Felly, ac er mwyn symlrwydd wrth ddeall cyfrifoldebau gorfodaeth, bydd y cyngor yn gorfodi cyfyngiadau ar y stryd (i bob pwrpas arwyddion a llinellau). Gall y troseddau yma gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i; barcio ar linellau melyn, aros yn hirach na'r terfynau amser mewn cilfachau parcio, parcio ar linellau igam-ogam wrth groesfannau i gerddwyr, parcio ar draws cyrbiau isel a pharcio mwy na 50cm o ymyl y palmant. Unwaith bydd HTC wedi ei roi ni all un o  Swyddogion Gorfodaeth Parcio Sifil ac Amgylchedd ar y Cyd y cyngor ddileu tocyn.

Beth yw Hysbysiad Tâl Cosb (HTC)

Bydd Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) yn cael ei roi i gerbyd sydd wedi ei barcio'n groes i reoliadau parcio naill ai ar y stryd neu oddi ar y stryd mewn meysydd parcio a reolir gan y cyngor.

Pwy fydd yn rhoi'r HTCau?

Mae gan y cyngor dîm o Swyddogion Gorfodaeth Parcio Sifil ac Amgylchedd sydd â phwerau nid yn unig i roi HTC ar gyfer troseddau parcio, ond dirwyon ar gyfer troseddau amgylcheddol hefyd. Mae swyddogion nawr yn gweithredu gorfodaeth parcio fel amlinellir yn Rhan 6 Deddf Rheoleiddio Traffig 2004, ac yn cael eu lleoli pob dydd ar draws Torfaen. Mae'n debygol y bydd swyddogion yn cael neu eisoes wedi cael eu gweld yn gweithredu mewn lleoliadau ble nad oedd wardeniaid traffig yn cael eu danfon o'r blaen.

Beth sy'n digwydd i'r incwm o HTCau?

Mae'r arian sy'n cael ei dderbyn trwy HTCau yn cael ei roi tuag at gostau gweithredu'r gwasanaeth. Mae unrhyw incwm dros ben yn cael ei ddiogelu ar gyfer cynlluniau gwella traffig fel sy'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth.

Oes yna dargedau ar gyfer rhoi HTCau?

Does dim targedau gan y Swyddogion Gorfodaeth Parcio Sifil ac Amgylchedd i roi nifer benodol o HTCau. Bwriad gorfodaeth parcio yw nid codi arian i gynghorau ond gwella rheolaeth ar draffig, rheolaeth y rhwydwaith, effeithlonrwydd a chydymffurfiad â chyfyngiadau ar gyfer y gymuned gyfan.

Beth fydd cost HTC?

Bydd yna ddau fand o HTCau - lefel is a lefel uwch - gyda'r troseddau mwy difrifol fel parcio ar linellau melyn neu barcio mewn cilfach i'r anabl heb arddangos bathodyn glas dilys yn destun HTCau lefel uwch.

Bydd y tâl yn £70 am drosedd lefel uwch a £50 am drosedd lefel is, gyda gostyngiad o 50% am dalu o fewn 14 diwrnod a chynnydd posibl o 50% os na thelir o fewn 28 diwrnod.

Beth sy'n digwydd os fyddaf i'n derbyn HTC?

Mae gennych chi ddau opsiwn os fyddwch yn derbyn HTC:

Talu: Byddwch ond yn talu 50% o'r tâl cosb llawn os byddwch yn talu o fewn 14 diwrnod (gan gymryd y dyddiad ar y HTC fel diwrnod 1). Ar ôl 14 diwrnod, bydd y gosb yn cynyddu i'r swm llawn. Beth bynnag, mae'n rhaid talu o fewn 28 diwrnod, gan ddechrau gyda diwrnod 1.

Apêl: Os yw modurwr yn credu fod yna achos i'w ystyried mae ganddyn nhw gyfle i apelio yn unol â'r broses gorfodi cosbau parcio, sydd ym Mholisi Gorfodi Parcio Sifil yr Awdurdod.

Gallwch ysgrifennu atom ni o fewn 28 diwrnod o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad er mwyn apelio. Os bydd apêl yn cael ei chyflwyno o fewn 14 diwrnod cyntaf y cyfnod hwn, bydd lefel y tâl yn aros ar yr un raddfa tra'n disgwyl canlyniad yr apêl.

Os caiff yr apêl ei gwrthod, mae gan y sawl sy'n derbyn (perchennog/ceidwad y cerbyd) ddewis pellach i gyflwyno apêl at ddyfarnydd annibynnol. Bydd manylion am sut i wneud hyn yn cael eu cynnwys yn yr hysbysiad o'r cyngor.

Beth sy'n digwydd os byddaf i'n anwybyddu HTC?

Os byddwch yn anwybyddu HTC, ni fydd yn diflannu. Bydd y tâl cosb yn cynyddu os na chaiff ei dalu neu os na chaiff ei herio. Gall oedi pellach wrth ymdrin â'r HTC arwain at gamau gan Asiantiaid Gorfodi Adennill Dyledion (beilïod), gyda'u costau nhw yn cael eu hychwanegu at y ddyled sifil.

Sut allaf i osgoi cael Hysbysiad Tâl Cosb?

Bydd dilyn y cynghorion yma'n eich helpu i barcio mewn ffordd nad sy'n achosi anghyfleuster i aelodau eraill y cyhoedd ac yn eich helpu i osgoi HTC:

  • Edrychwch bob amser i weld y llinellau ar yr heol a, ble bo hynny'n berthnasol, yr arwyddion ar ymyl y ffordd - maen nhw'n dweud wrthych chi pa gyfyngiadau sy'n berthnasol.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi parcio o fewn marciau'r gilfach bob tro
  • Darllenwch Reolau'r Ffordd Fawr a fydd yn cynorthwyo esboniad beth yw ystyr yr arwyddion a llinellau
  • Peidiwch â pharhau i barcio gan dorri unrhyw gyfyngiadau ble rydych chi wedi bod yn parcio o'r blaen, gan y bydd y cyfyngiadau'n destun gorfodaeth fwy effeithiol nawr
  • Peidiwch â pharcio ar linellau melyn dwbl
  • Peidiwch â pharcio ble mae yna gyfyngiadau llinell melyn ar aros neu lwytho 
  • Peidiwch â rhwystro mynedfeydd i eiddo preifat - cyrbiau isel
  • Peidiwch â pharcio ochr yn ochr
  • Peidiwch â pharcio ar groesfannau cerddwyr neu'r nodau igam-ogam gwyn yn agos at y groesfan
  • Peidiwch â pharcio ar nodau 'Ysgol - Cadwch yn Glir' neu'r nodau igam-ogam melyn yn agos at ysgolion
  • Peidiwch â pharcio mewn cilfachau llwytho oni bai eich bod chi'n llwytho/dadlwytho nwyddau
  • Peidiwch â pharcio mewn cilfachau sydd wedi eu neilltuo ar gyfer deiliaid bathodyn anabl neu ddosbarthiadau penodol o gerbyd oni bai bod hawl gennych chi i wneud hynny
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi parcio o fewn marciau'r gilfach bob tro

Sut mae talu Hysbysiad Tâl Cosb?

Mae yna dair ffordd o dalu HTC

  • Ar-lein yn www.swpg.co.uk (taliad cerdyn credyd/debyd)
  • Trwy'r post at Grŵp Parcio De Cymru, Blwch Post 112, Pontypridd, CF37 9EL
  • Dros y ffôn ar 033 33 200 867 (Taliad cerdyn credyd/debyd)

Ble ddylwn i barcio?

Dysgwch fwy am barcio yn Nhorfaen yma.

Beth yw effaith GPS ar ddeiliaid bathodynnau anabl?

Does dim byd yn newid i ddeiliaid Bathodynnau Glas. Mae'r rheolau arferol yn berthnasol.

Os oes gennych chi Fathodyn Glas yna gallwch chi barcio:

  • Ar linell felen sengl neu ddwbl am hyd at fwyafswm o 3 awr os yw eich bathodyn a'ch disg parcio/cloc (wedi ei osod i ddangos yr amser y bu i chi gyrraedd) wedi eu harddangos yn glir a dydych chi ddim yn creu rhwystr
  • Ar y stryd: Mewn cilfachau anabl am ddim a heb derfyn ar amser oni bai bod arwydd yn dweud i'r gwrthwyneb

Nodwch os gwelwch yn dda: dylech arddangos eich Bathodyn Glas yn glir ar eich borden flaen neu banel ffasgia. Dylai tu blaen y bathodyn yn dangos y symbol cadair olwyn a'r dyddiad terfyn fod yn weladwy.

Ni all ddeiliaid Bathodyn Glas barcio:

  • Mewn arosfannau bysiau
  • Mewn cilfachau tacsis
  • Ar glirffyrdd (dim aros)
  • Mewn cilfachau arbennig, fel cilfachau i feddygon neu'r heddlu
  • Pan fo gwaharddiad ar lwytho mewn grym
  • Ar balmentydd oni bai bod yna arwydd llinellau gwyn yn caniatáu i chi wneud hynny
  • Ar groesfan i gerddwyr neu nodau igam-ogam
  • Ar nodau igam-ogam ysgolion yn ystod amserau gweithredol
Diwygiwyd Diwethaf: 02/08/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Highways Transportation

Ffôn: 01495 762200

Ebost: highways.transportation@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig