Arolwg Safle

Oherwydd eich bod wedi dewis tîm lleol gallan nhw ymweld fel arfer ar y diwrnod y byddwch yn gofyn am ymweliad os byddwch yn galw cyn 10am – mae hyn o gymorth i’ch adeiladwr gan ei fod yn lleihau oedi costus

Caiff y camau arolwg eu cytuno fel arfer trwy Fframwaith Arolwg Safle a gaiff ei drafod ar gychwyn y gwaith. Bydd hyn yn benodol i’r math o brosiect ond bydd angen y camau isod bob tro:

  • Dechrau’r Gwaith: Defnyddir y cam hwn fel arfer i gytuno pa gamau o’r gwaith a ddylai gael arolwg yn y dyfodol. Efallai bydd rhywbeth anarferol, neu fater nad ydych chi’n siŵr amdano, a gellir ei drafod cyn i’r gwaith fynd yn rhy bell.
  • Camau canolraddol: Bydd angen arolygon gwahanol ar wahanol fathau o brosiectau a all gynnwys sylfaeni, y llawr, gwaith gwrthleithder i’r waliau a’r lloriau, strwythur y to, unrhyw waith traenio, trawstiau strwythurol ac agoriadau, gwaith gwrthdan ac ynysiad gwresol.
  • Cwblhau: Prif amcan y cam hwn yw sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu amrywiol cyn i’r tŷ gael ei lenwi a’i ddefnyddio. Pan fydd yr arolygwr yn fodlon gyda’r gwaith byddant yn rhoi tystysgrif cwblhau, a hynny am ddim. Mae hon yn ddogfen bwysig a ddefnyddir gan gyfreithwyr/asiantau chwilio personol pan ddowch i werthu a chan benthycwyr morgeisi ac yswirwyr.

Gwyliwch y fideo ar sut i drefnu arolwg

Trefnu arolwg safle

  • Ar y Ffôn: 01633 647300
  • Trwy E-bost: buildingcontrol@torfaen.gov.uk
  • Trwy ddefnyddio’r Ap LABC ar eich ffôn clyfar
  • Yn bersonol yn ein swyddfeydd: Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl NP4 0LS
Diwygiwyd Diwethaf: 17/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Adeiladu

Ffôn: 01633 647300

Ebost: buildingcontrol@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig