Prosiectau Cyffredin

Adeiladu estyniad?

Mae hwn yn brosiect adeiladu cymhleth, felly dylech geisio cyngor proffesiynol gan bensaer neu gontractwr adeiladu cyn dechrau.

Gwylio ein fideo: A oes angen rheoliadau adeiladu ar gyfer fy estyniad?

Bydd estyniad yn cael effaith fawr ar eich cartref, gardd a chymdogion.

Wrth lunio cynlluniau, bydd angen i chi edrych ar sut y byddai'n effeithio ar bethau fel mynediad i'ch cartref a'ch gardd, symudiadau o fewn ac o gwmpas eich cartref a'r golau naturiol mewn ystafelloedd presennol. Bydd hefyd angen i chi ystyried pa ddefnyddiau adeiladu i'w defnyddio - yn enwedig os defnyddiwyd technegau neu ddefnyddiau adeiladu anarferol i adeiladu eich cartref.

Unwaith y byddwch wedi penderfynu bod eich cartref yn addas ar gyfer estyniad dylech ofyn i bensaer neu ddylunydd adeiladau lunio cynlluniau, i'w cymeradwyo gan dîm rheoli adeiladu eich cyngor lleol cyn dechrau ar y gwaith.

Dylai’r cynlluniau a’r manylion gynnwys:

  • Sylfeini – cyflwr y ddaear, dyfnder, ynysu rhag gwrthleithder a diogelu rhag radon
  • Lloriau a waliau – strwythur a phwysau, inswleiddio ac ynysu rhag sain
  • Toeon – gwastad neu ar ongl, inswleiddio, cynalyddion a thrawstiau, taldra ystafelloedd
  • Draeniad – cysylltiadau â draeniau presennol, tyllau caead a chyflenwadau dŵr, trydan, pŵer a gwres, ffenestri, drysau ac awyru a hygyrchedd i’r anabl
  • Diogelwch tân – llwybrau dianc a chanfodyddion mwg. Hefyd, os yw’r estyniad yn mynd i fod yn ddau lawr neu fwy, bydd angen i’r cynlluniau gynnwys
  • Grisiau a canllawiau
  • Ynysu rhag sain – yn enwedig mewn ystafelloedd cysgu
  • Dianc rhag tân – o loriau uwch

Gwylio ein fideo: Astudiaeth achos rheoli adeiladu ar gyfer adeiladu estyniad

Adeiladu Ystafell Wydr?

Gall llawer o ystafelloedd gwydr, tai haf, siediau ac adeiladau allanol gael eu hadeiladu heb gymeradwyaeth rheoli adeiladu. Y rheol gyffredinol yw, os ydynt yn fach (llai na 30m2), neu yn cael eu hadeiladu o ddeunydd anhylosg, neu yn cael eu hadeiladu i ffwrdd o adeiladau neu dir cyfagos ac nid ydynt yn cynnwys llety cysgu, maent wedi eu heithrio o'r gofyniad i gyflwyno cais – er, byddai’n ddoeth holi i’ch tîm rheoli adeiladu lleol cyn dechrau ar y gwaith.

Yn gyffredinol, rhaid adeiladu tai gwydr â waliau a thoeon tryloyw yn bennaf a rhaid bod ganddynt math o ddrws allanol sy'n eu gwahanu oddi wrth weddill y tŷ.

Gellir adeiladu sylfeini a lloriau mewn amrywiaeth o ffyrdd, ond rhaid ystyried cyflwr y ddaear, coed a draeniau presennol. Mae hefyd yn arfer da i inswleiddio er mwyn gwneud yr ystafell haul yn haws i'w gwresogi.

Dylai ystafelloedd gwydr uPVC gael fframiau sydd â marciau Safon Prydeinig (BSEN 126908 a/neu BS7412) i wneud yn siŵr eu bod yn ddigon cryf i gynnal pwysau'r to. Yn gyffredinol bydd angen trin ystafelloedd haul pren gyda staen neu olew i sicrhau eu bod yn ddibynadwy. Dylech wirio bod y pren yn dod o ffynonellau cynaliadwy. Dylai'r gwydr fod yn gwydn neu wydr diogelwch.

Gwylio ein fideo: Rheolau sylfaenol Ystafelloedd haul

Trosi garej

Fel estyniadau cartref, mae newid garej i mewn i ofod byw yn brosiect adeiladu cymhleth a dylech geisio cyngor proffesiynol gan bensaer neu gontractwr adeiladu a siarad â thîm rheoli adeiladu eich cyngor lleol cyn dechrau. Bydd angen talu sylw arbennig i'r canlynol wrth lunio cynlluniau:

  • Sylfeini – yn aml nid yw sylfeini garej yn ddigon dwfn i gynnal pwysau ychwanegol y lloriau, waliau a’r nenfydau felly bydd gwneud prawf i weld pa fath o fesurau atgyfnerthu sydd eu hangen.
  • Llenwi agoriadau drysau – dylai gynnwys sylfeini addas, cwrs lleithder, selio rhag y tywydd ac inswleiddio.
  • Cryfder strwythurol – yn aml mae waliau garej wedi eu hadeiladu o haenen unigol o frics, efallai nad ydynt yn addas i gynnal llawr ychwanegol, to newydd neu ddeunydd inswleiddio ychwanegol.
  • Selio rhag y tywydd ac inswleiddio – bydd angen selio’r garej rhag y tywydd a’i inswleiddio os yw’n mynd i gael ei ddefnyddio fel gofod byw.
  • Ffenestri ac awyru – rhaid i’r ffenestri ddiwallu safonau effeithlonrwydd ynni a rhaid bod ganddynt awyriad da. Gwyliwch ein fideo ar drosi garej i gael gwybod mwy.

Gwylio ein fideo: Trosi garej

Trosi llofftydd

Gall trosi gofod dan do eich cartref fod yn ffordd gost-effeithiol o greu ystafelloedd gwely neu ardaloedd byw ychwanegol. Ond nid yw pob llofft yn addas i'w drawsnewid. Fel cam cyntaf, dylech wirio'r canlynol:

  • Uchder: A oes yna ddigon o le yn eich llofft i chi sefyll yn gyffyrddus? Er mwyn i’ch llofft gael ei gyfri’n ystafell wely ar ôl i chi ei drosi, dylai’r uchder, yn ddelfrydol, fod o leiaf 2m – ond cofiwch, mai dyma’r uchder ar ôl gosod lloriau newydd, trawstiau a phaneli a gall hyn gymryd 300mm arall o le.
  • Arwynebedd llawr: Ydy’r llawr yn ddigon mawr i greu ystafell y gellir gwneud defnydd ohoni?
  • Cyfleustodau: A fyddai angen symud simneiau, tanciau, pibau neu wasanaethau er mwyn creu lle priodol?
  • Os yw’r gofod yn eich llofft yn rhy isel, neu’n rhy fach, neu’n cynnwys gormod o gyfleustodau, mae’n bosib y gallwch dal ati i’w drosi, ond bydd hyn yn fwy cymhleth o lawer (a chostus). A dylech siarad â’ch tîm rheoli adeiladu lleol i gael cyngor.

Mae trosi llofft o unrhyw fath yn brosiect cymhleth, felly dylech gael cynlluniau proffesiynol a luniwyd gan bensaer neu ddylunydd adeiladu a dylai tîm rheoli adeiladu eich cyngor lleol eu cymeradwyo cyn i chi ddechrau gweithio - efallai y bydd hefyd angen caniatâd cynllunio arnoch, felly mae bob amser yn well i holi Adran Gynllunio eich Awdurdod Lleol. Dylai'r cynlluniau gynnwys:

  • To – strwythur (llwyth, cynalyddion a thrawstiau), defnyddiau, inswleiddio ac awyru
  • Mynediad – grisiau (ongl, lled ac uchder), dihangfa rhag tân, a chanllawiau
  • Lloriau a waliau – strwythur ac atgyfnerthu, inswleiddio ac ynysu rhag sain
  • Trydan, pŵer a gwres
  • Ffenestri a drysau
  • Diogelwch tân – llwybrau dianc a chanfodyddion tân
  • Ystafelloedd ymolchi – cysylltiadau â chyflenwadau dŵr a draeniau, awyru

Gwylio ein fideo ar sut y mae rheoliadau adeiladu yn gysylltiedig â throsi llofftydd

Ffenestri to

Yn aml, gall y rhain ddarparu goleuni mawr ei angen yn eich gofod yn y to lle mae cyfyngiadau cynllunio yn berthnasol ar faint neu nifer y ffenestri to. Mae llawer o frandiau priodol ar gael, yn amrywio o ffenestri fel modd o ddianc os bydd tân i ffenestri sy'n rhoi mynediad i falconïau agored. Os ydych yn bwriadu cael balconi rhaid i chi sicrhau ei fod yn ddiogel o amgylch yr ymylon rhag i rhywun syrthio, a rhaid sicrhau bod y deciau yn cael eu hadeiladu yn iawn i gymryd pwysau cerddwyr.

Mannau Storio

Gallwch ddefnyddio'ch gofod llofft presennol i storio eitemau ysgafn y cartref a hynny heb gymeradwyaeth rheoli adeiladu os oes gennych fynediad i'r gofod drwy ysgol sy’n cosi a disgyn. Mae'n arfer da i osod rhywfaint o fyrddau rhydd i greu arwyneb gwastad ar gyfer yr eitemau. Yn gyffredinol, nid yw distiau nenfwd wedi'u cynllunio i gynnal llwythi trwm. Felly, os ydych yn bwriadu defnyddio eich llofft i storio eitemau trwm neu osod lloriau parhaol neu risiau/staer priodol efallai y bydd angen i chi wneud cais i'ch cyngor lleol i gael cymeradwyaeth rheoli adeiladu.

Newidiadau mewnol ac atgyweiriadau

Dyma rai camau y bydd angen i chi eu dilyn cyn gwneud newidiadau mewnol. Ni fydd angen cymeradwyaeth y tîm rheoli adeiladu i bob un o'r rhain - y rheol sylfaenol yw os bydd y gwaith yn cynnwys waliau sy'n dal pwysau, simneiau, lleoedd tân neu waliau o gwmpas grisiau yna bydd angen cymeradwyaeth gan eich tîm rheoli adeiladu lleol. Felly siaradwch â nhw cyn gynted ag y gallwch.

Os ydych yn gwneud mân newidiadau fel newid teils to i rhai o'r un math a phwysau; ailosod y ffelt ar do gwastad; ail-bwyntio gwaith brics; neu ailosod estyll ni fydd angen i'r tîm rheoli adeiladu lleol gymeradwyo'r gwaith.

Adeiladu, tynnu neu newid waliau

  • Mae gan waliau mewnol nifer o swyddogaethau: rhai i gadw'r nenfwd a lloriau uchaf i fyny, mae rhai yno i'ch helpu chi ddianc o'ch cartref os oes tân ac eraill yn syml i rhannu'r gofod.
  • Waliau sy’n cynnal pwysau – mae’r rhain yn hanfodol i strwythur eich cartref a dylech gael cyngor arbenigol gan bensaer neu beiriannydd strwythurol cyn i chi fynd ati i’w newid, adeiladu neu eu tynnu o’u lle. Wrth dynnu wal gynnal mae peiriannydd strwythurol yn ystyried y pwysau ar y waliau a bydd yn dylunio trawst a strwythurau cynnal eraill i drosglwyddo’r pwysau i’r llawr yn ddiogel.
  • Diogelu rhag tân – mae waliau o amgylch grisiau yn diogelu er mwyn caniatáu i chi ddianc pe byddai tân, felly bydd newid y waliau hyn yn golygu y bydd angen i chi, ymhob tebyg, i gymryd mesurau eraill fel gosod larymau mwg neu ffenestri llofft sy’n addas i’w defnyddio fel modd o ddianc rhag tân, er mwyn gwneud iawn am hynny.

Dysgwch mwy drwy wylio ein fideo ar newidiadau i gynllun neu strwythur eich cartref

Ailosod ffenestri

Yn gyffredinol, gellir atgyweirio ffenestri, fel ailosod gwydr sydd wedi torri, ffenestri dwbl sydd wedi niwlio, ffenestri codi sydd wedi pydru a rhannau pwdr ar y ffrâm heb geisio cymeradwyaeth rheoli adeiladu. Ond os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, ardal o harddwch naturiol eithriadol, neu os yw eich cartref wedi ei rhestru, yna bydd angen i chi gael cymeradwyaeth rheoli adeiladu (ac o bosibl caniatâd cynllunio hefyd) ar gyfer bron unrhyw waith gwydro - felly holwch eich tîm rheoli adeiladu lleol.

Fel arfer, byddai ailosod ffenestri llawn yn galw am gymeradwyaeth rheoli adeiladu, ond gall y rhan fwyaf o waith gael ei wneud gan ddefnyddio gosodwr sydd wedi cofrestru gyda FENSA. Byddant yn gwneud y gwaith i'r safonau cywir ac yn rhoi'r holl dystysgrifau perthnasol i chi ar ôl cwblhau'r gwaith.

Ffenestri crwm a simneiau

Fel arfer, mae ffenestri crwm a simneiau yn dal pwysau, felly bydd angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu ar gyfer unrhyw newidiadau iddynt a dylech geisio cyngor arbenigol gan beiriannydd strwythurol neu adeiladwr cyn gwneud y gwaith. Os ydych am dynnu brest simnai, bydd peiriannydd strwythurol neu bensaer yn gallu asesu cryfder y gwahanfur neu'r talcen, trwch ffliw'r simnai a'r uchder i ddarganfod pa fath o fesurau cynnal i'w gosod yn eu lle.

Efallai bydd angen leinin ffliw ar simneiau sy'n gweithio er mwyn atal y mwg rhag gollwng i mewn i ystafelloedd a dylid eu hysgubo yn rheolaidd i'w cadw'n effeithlon. Os ydych yn bwriadu gosod stôf llosgi coed newydd, mae'n bwysig eich bod yn dilyn y drefn gosod yn gywir. Gellir cael mwy o wybodaeth am waith atgyweirio simnai, ynghyd â chofrestr o gontractwyr cymwys gan Gymdeithas Genedlaethol y Peirianwyr Simneiau

Diwygiwyd Diwethaf: 18/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Adeiladu

Ffôn: 01633 647300

Ebost: buildingcontrol@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig