Enillwyr cystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 6 Hydref 2023

Mae ysgolion cynradd yn Nhorfaen wedi lleihau faint o wastraff bwyd maen nhw’n cynhyrchu o gyfartaledd o 20%, o ganlyniad i gystadleuaeth newydd.  

Cymerodd tair ar ddeg o ysgolion ran yn y gystadleuaeth a drefnwyd gan Wasanaeth Arlwyo Torfaen i fonitro a lleihau gwastraff bwyd amser cinio.  

Yr enillwyr oedd disgyblion Ysgol Gynradd Woodlands, Cwmbrân, a lwyddodd i leihau eu gwastraff bwyd 29% (27.71 Kg).  Cawson nhw gymeradwyaeth am eu sgiliau pwyso, mesur a chofnodi manwl ac am gynnal ymgyrch arloesol, gan gynnwys ysgrifennu at y gwasanaeth arlwyo i awgrymu newidiadau i’r fwydlen. 

Dewiswyd Ysgol Gynradd Blenheim Road a Choed Eva yn yr ail safle, hefyd oherwydd eu sgiliau monitro a chofnodi manwl, yn ogystal â’u ffordd greadigol o ddathlu disgyblion a orffennodd eu cinio heb adael gwastraff. Rhannwyd lluniau yn dangos disgyblion â phlatiau glân ac yn gwenu. 

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, yr Aelod gweithredol dros yr Amgylchedd: “Hoffwn ddiolch i’r ysgolion i gyd am gymryd rhan. 

“Mae dysgu am leihau gwastraff bwyd yn ifanc yn bwysig, ac roeddwn i’n falch o glywed y canlyniadau. 

“Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr, rydym yn gobeithio y byddwch chi’n mwyhau eich gwersi coginio ac y byddwch yn parhau â’r gwaith gwych.” 

Daeth y syniad am y gystadleuaeth ar ôl lansiad gwasanaeth casglu gwastraff bwyd Cyngor Torfaen i ysgolion cynradd llynedd.  

Bydd yn enillwyr yn derbyn sesiwn goginio iach am ddiwrnod llawn i 16 o ddisgyblion, a bydd yr ysgol yn yr ail safle’n cael sesiwn goginio am hanner diwrnod diolch i dîm Food4Growth y cyngor, a ariannodd cost y cloriannau a roddwyd i’r ysgolion hefyd. 

Rhoddodd tîm Rheoli Arlwyo Ysgolion Torfaen arian i’r wobr ychwanegol i’r ysgol yn yr ail safle oherwydd nifer y ceisiadau ardderchog.  Rhoddodd y Tîm Ysgolion Iach a Chwarae wobrau hefyd. 

Dysgwch fwy ynglŷn â sut mae’r Tîm Arlwyo Ysgolion yn gweithio’n galed i ddiwallu anghenion disgyblion heb niweidio cyfleoedd y dyfodol yma

Dysgwch dwy am arlwyo ysgolion cynradd   

Darllenwch fwy am y gystadleuaeth  

Mae lleihau gwastraff bwyd yn un o’r ffyrdd mae’r cyngor yn gweithio i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a newid yn yr hinsawdd yn y fwrdeistref.

Diwygiwyd Diwethaf: 06/10/2023 Nôl i’r Brig