Partneriaeth ar gyfer Grantiau Cymunedol

Mae partneriaeth newydd o’r enw “Cysylltu Torfaen,” wedi cael ei datblygu i gynyddu cyfleoedd i Drydydd Sector Torfaen i gael nawdd.

Mae’r bartneriaeth yn dod â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, Bron Afon, Pobl, a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan at ei gilydd, i greu ffordd unedig o weinyddu cynlluniau grantiau bach ar gyfer grwpiau cymunedol ar draws y Fwrdeistref.

Nod y bartneriaeth hon yw cynyddu’r nawdd sydd ar gael i helpu i ddatblygu gweithgareddau ar gyfer ein cymunedau sy’n annog perchnogaeth gan y gymuned, yn datblygu annibyniaeth ac yn gwneud gwahaniaeth sy’n para i fywydau pobl.

Mae gan bartneriaid amrywiaeth o grantiau i’w cynnig:

Grantiau Cydnerthedd Cymunedol

Gyda chyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn lansio 3 chynllun grant:

  • Grant Gweithgarwch Cymunedol rhwng £200 a £3,000 – refeniw yn unig
  • Grant Datblygu Cymunedol hyd at £40,000 gyda chyfuniad o nawdd cyfalaf a refeniw. Y dyddiad cau ar gyfer rownd gyntaf y ddau grant yw 22 Ebrill 2024. Am ragor o wybodaeth a dyddiadau pellach a/neu i ofyn am ffurflen gais, anfonwch neges e-bost i’r Tîm Creu Cymunedau Cryf  CommunityResilienceFund@torfaen.gov.uk
  • Grantiau Gwydnwch Bwyd o £500 i £15,000. Mae’r rhaglen yn agor ddydd Llun 18 Mawrth 2024 a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 9am ddydd Llun 22 Ebrill 2024. Am ragor o wybodaeth a/neu i ofyn am ffurflen gais, anfonwch neges e-bost i’r Tîm Gwydnwch Bwyd - food4growth@torfaen.gov.uk

Er mwyn i chi fod yn gymwys ar gyfer y nawdd hwn, fe fydd eich prosiect yn creu cymunedau cryf. Rhaid bod y prosiect yn ymgysylltu â’r gymuned ehangach ac yn gwella rheolaeth.  Gall prosiectau gynnwys mentrau sy’n helpu cymunedau gyda chostau byw, er enghraifft cyngor a gwybodaeth, a phrosiectau sy’n anelu at wella iechyd a llesiant neu fynediad gwell at wasanaethau.

Grantiau Busnesau Bwyd

Gyda chyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen hefyd yn lansio ail rownd Grantiau Datblygu Busnesau Bwyd. Mae’r grantiau ar gyfer prosiectau sy’n ychwanegu gwerth at eu cynnyrch, yn newid y ffordd y maen nhw’n gweithio, neu’n creu rhwydweithiau bwyd cynaliadwy a chadwyni cyflenwi newydd. Mae yna ddwy lefel i’r cyllid sydd ar gael:

  • Lefel 1 - £500 - £5000
  • Lefel 2 - £5000.01 - £25,000

Ar gyfer pob grant, mae angen o leiaf 20% o arian cyfatebol gan yr ymgeisydd. Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch trwy businessdirect@torfaen.gov.uk neu 01633 648735.

Mae’r Rhaglen Gwydnwch Bwyd wedi cael £991,426 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae’n anelu at gynyddu’r bwyd fforddiadwy a gynhyrchir yn lleol, a dod o hyd i ffyrdd cynaliadwy o fynd i’r afael â thlodi bwyd trwy’r Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy.

Cynghrair Gwirfoddol Torfaen

Mae arian a gafwyd trwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi galluogi Cynghrair Gwirfoddol Torfaen i hwyluso cynllun grantiau bach ar draws Torfaen. Nod y cyllid yw cefnogi mentrau a gweithgareddau sy’n cael eu gyrru’n lleol ac sy’n alinio â blaenoriaethau’r Cronfeydd Integredig Rhanbarthol, gyda ffocws ar wella gofal yn y gymuned er mwyn atal ac ymyrryd ar lefel leol. Mae’r gronfa’n rhoi cymorth ar draws holl grwpiau’r boblogaeth, ac mae uchafswm gwerth prosiect unigol yn £20,000. Fe fydd y broses ymgeisio ar agor ym mis Ebrill 2024. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Chynghrair Gwirfoddol Torfaen ar 01495 365610 neu anfonwch neges e-bost i funding@tvawales.org.uk

Bron Afon

Mae gan Bron Afon gynllun grantiau hefyd o’r enw “Pitch4Pounds”, lle mae grwpiau cymunedol yn gallu ymgeisio am hyd at £1000 i gefnogi prosiectau sy’n mynd i’r afael a:

  • Thlodi bwyd
  • Unigrwydd ac ynysu
  • Iechyd meddwl a lles meddyliol
  • Yr amgylchedd neu gynaliadwyedd
  • Plant a phobl ifanc

Cysylltwch â thîm Llais y Cwsmer trwy anfon neges e-bost i customer.voice@bronafon.org.uk

Nodwch fod y dyddiad cau cychwynnol wedi bod, ond efallai y bydd nawdd ychwanegol ar gael yn ystod y flwyddyn.

Pobl

Mae ein helusen gofrestredig, Pobl Trust, wedi ymrwymo i godi arian a dyrannu grantiau ar gyfer unigolion, grwpiau cymunedol a phrosiectau, i gefnogi ansawdd bywyd ac i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau yn yr ardaloedd ble mae Pobl Group yn gweithio. Cynigir Cist Gymunedol o hyd at £1000 ar gyfer gweithgareddau addysgiadol a chymdeithasol, adnoddau ar gyfer grwpiau, digwyddiadau cymunedol neu weithdai. Am gopi o’r ffurflen ewch i – Community Chest Application Form neu am ragor o wybodaeth ewch i www.poblgroup.co.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 21/03/2024 Nôl i’r Brig