Grantiau Cydnerthedd Cymunedol Torfaen

Mae gennym gyfle gwych i sefydliadau cymunedol ymgeisio am grantiau rhwng £200 a £40,000 i helpu datblygu gweithgareddau yn ein cymunedau sy’n annog perchnogaeth y gymuned, yn datblygu annibyniaeth ac yn gwneud gwahaniaeth sy’n para i fywydau pobl.

Mae yna ddau grant ar gael:

  • Grant Gweithgarwch Cymunedol - £200 - £3,000 – Cyllid Refeniw yn Unig

Mae cyllid refeniw ar gael i gefnogi grwpiau a sefydliadau i brynu eitemau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau, hyfforddiant, marchnata, cyfarpar gan gynnwys TG a nwyddau gwyn.

  • Grant Datblygu Cymunedol – hyd at £40,000 – Cyfuniad o Gyllid Cyfalaf a Refeniw (Uchafswm o £20,000 Cyfalaf / £20,000 Refeniw)

Mae grantiau Cyfalaf a Refeniw ar gael i sefydliadau â ganddynt adeiladau sydd efallai angen eu huwchraddio neu wella. Efallai y bydd ar sefydliadau angen mwy o gyllid Refeniw na’r hyn sydd ar gael trwy’r Grantiau Bach hefyd, ar gyfer prosiectau ehangach a mwy beiddgar.

Meini Prawf

Bydd gofyn i grwpiau ddangos sut y mae eu prosiect yn cyfrannu at un o’r themâu Cymunedau Cryf canlynol:

  • Datblygu Gweithredu Cymdeithasol a Gweithgarwch Cymunedol (newydd neu well)
  • Gweithgareddau Llesiant, atal afiechyd a gwella iechyd
  • Cymorth gyda Chostau Byw, er enghraifft mynediad at gyngor a gwasanaethau a lleihau tlodi tanwydd  
  • Effeithlonrwydd Ynni a Newid Hinsawdd
    • Mesurau effeithlonrwydd ynni a lleihau CO2 ar gyfer y sefydliad
    • Cyngor ac arweiniad i’r gymuned ehangach mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni, ailgylchu a lleihau ynni yn y cartref
  • Gwella’r cynnig Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth

Bydd gofyn i bob prosiect ddangos:

  • Bod mwy o bobl yn cymryd rhan a mwy o ymgysylltiad â’r gymuned ehangach
  • Datblygiad gweithgaredd/prosiect sy’n anelu at ddod yn hunangynhaliol
  • Y potensial i greu incwm ac i sicrhau bod gweithgareddau’n gweithio’n fwy effeithlon

Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid grant, fe fydd eich prosiect yn meithrin cymunedau a mudiadau cymunedol cryf a chydnerth. Rhaid bod y prosiect yn ymgysylltu â’r gymuned ehangach ac yn cynyddu ymgysylltiad a niferoedd sy’n cymryd rhan. Yn ddelfrydol, bydd eich prosiect a'ch mudiad yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i uchafu adnoddau ac i atal gwasanaethau rhag cael eu dyblygu. Dylai’r prosiect gyfeirio ymdrechion i ddod yn hunangynhaliol a dylai fod yn gallu parhau unwaith y bydd y cyllid grant wedi cael ei wario.

Nodwch: Ni allwn ariannu grwpiau nad ydynt yn cynnwys y gymuned ehangach.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

  • Cwmnïau Budd Cymunedol
  • Grwpiau Cymunedol â Chyfansoddiad
  • Mentrau Cymdeithasol
  • Elusennau
  • Grwpiau Gwirfoddol
  • Ysgolion (rhaid eu bod yn cefnogi gweithgareddau cymunedol ehangach)
  • Clybiau/Grwpiau Chwaraeon (rhaid eu bod yn cefnogi gweithgareddau cymunedol ehangach)

Amserlen ar gyfer Ymgeisio

Fe fydd gofyn i chi gyflwyno ceisiadau i ni erbyn 9am ddydd Llun 22 Ebrill 2024.

Cysylltu â Ni

Am ragor o wybodaeth anfonwch neges e-bost i: CommunityResilienceGrants@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 21/03/2024 Nôl i’r Brig