Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru

Mae gan Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru rôl strategol arweiniol wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc yn Ne Ddwyrain Cymru yn cael eu diogelu rhag gamdriniaeth, esgeulustod a chamfanteisio ac yn byw mewn amgylchedd sy'n hybu eu lles a chyfleoedd bywyd.

Mae'r  Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru yn gorff statudol sy'n deillio o Ddeddf Plant 2004; fe wnaeth ddisodli'r Bwrdd Lleol Diogelu Plant. 

Mae'r Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru yn bartneriaeth aml-asiantaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu Gwent, Gwasanaethau Cymdeithasol a Cyfarwyddiaethau Addysg o'r pum ardal Awdurdod Lleol, y Sector Gwirfoddol, Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru Gyfan, CAFCASS Cymru, Tai, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Pwrpas y gwaith partneriaeth hwn i ddwyn ei gilydd i gyfrif ac i sicrhau bod diogelu plant yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda ar draws y rhanbarth.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Diogelu Gwent.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 762200

E-bost: socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig